Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae ganddo ddernyn o wirionedd, y foment nesaf y mae yn ymbalfalu mewn tywyllwch; yn debyg iawn. i blant bychain-y foment hon. mae syniad y plentyn, mor bell ag y mae yn cyrhaedd, yn gywir, er ei fod yn gyfyng, ond y fynyd nesaf y mae wedi colli'r ffordd yn gwbl. Beth pe dadlenid o flaen ein meddwl am fynydyn hen freinlen fawr Gwirionedd, yn ei hŷd a'i lled? O mor fychan fyddai swm gwybodaeth y mwyaf gwybodus o blant Adda yn ei hymyl; ac mor gyfeiliornus fyddai corff mawr syniadau plant dynion o'u cymharu â hi. Plant, ïe, a llai na phlant. Plant! nage, darnau o blant. 'Mewn rhan' y mae hyd yn nod y galluoedd sydd genym yn cael eu gosed mewn gweithrediad yn y byd yma. Welais i eto yr un dyn, na dynes ychwaith, yn gosod ei serch mewn cyflawn weithrediad ar unrhyw wrthddrych. Naddo fi, erioed. Byddai y fath ddyn neu ddynes yn beth hynod yn y byd hwn. Welais i eto neb yn ymarfer galluoedd ei feddwl hyd yr eithaf, ar bob pryd, ac ar bob achos. Rhyw ddarnau o fywyd felly ydyw ein bywyd ni. 'Does yma neb yn byw bywyd cyfan. Ond, fy anwyl gyfaill, dyma fi'n myn'd. Mynych y bum yn meddwl beth pe gollyngai dyn ei feddwl yn rhydd am ddiwrnod cyfan yn y modd hwn, a chofnodi pob awgrym, pob trem feddyliol, pob meddylddrych neu ddarn o feddylddrych, a wibiai drwy'r awyrgylch ysbrydol hon, beth fyddai y cynnyrch? Tybed fod y byd wedi cael rhyw erthygl felly erioed? Prin y gallaf fi goelio; onidê, y mae fy meddwl i yn wahanol iawn i feddyliau yn gyffredin."

Rhwng ei erthyglau, ysgrifau, llythyrau, &c., ysgrifenodd lawer iawn iawn; ond tarewir ni wrth eu darllen, mor gymhwys y mae pob brawddeg wedi ei ffurfio, pob gair yn ei le, heb eisieu rhoddi ato na thynu oddiwrtho, a'r cwbl wedi myned felly yn naturiol. Yr oedd barn