yn bresennol mor gryf, mor gyflawn, ac mor fanwl yn ei feddwl wrth ysgrifenu, fel na byddai berygl ei gael yn "baldorddi nonsens fel ambell un.
III. EI LAFUR FEL PREGETHWR A GWEINIDOG. 1859-1877.
Hysbysir ni nad oes un o'i bregethau ar gael. Nid ymddengys y byddai yn ysgrifenu ei bregethau, ac na byddai ganddo byth mewn ysgrifen ond papyryn bychan, yr hwn a gadwai yn gyffredin yn mhoced ei wasgod isaf. Nid ydym yn gwybod a fu yn ysgrifenu yn nechreuad ei bregethu, ai ynte a fabwysiadodd y dull hwn o'r cyntaf. Yr oedd ganddo gof rhagorol. A thybiwn ei fod yn pregethu yn lled debyg fel y byddai yn ysgrifenu, meddwl yn dda ar y mater, ac yna, wedi ffurfio ei gynllun cyffredinol, ysgrifenai ymlaen fel y byddai meddyliau yn dyfod iddo. "Yr wyf yn cofio," meddai, "i mi gael cerydd llym iawn er ys amser yn ol gan un hen frawd, ag sydd yn awr yn y gogoniant, am roddi fel esgus dros feithder rhywbeth a ysgrifenaswn, nad oeddwn yn amcanu ei wneyd mor faith pan yn dechreu, nac yn meddwl ei fod felly hyd nes yr edrychais drosto ar ol ei orphen. Gosodai efe i lawr fel 'deddf y Mediaid a'r Persiaid,' y dylaswn feddwl fy holl erthygl cyn rhoddi pin ar bapyr i ddechreu ei hysgrifenu. Ond er fod y wers yn llem, a'r rheol yn gaeth, mae yn ddrwg genyf orfod addef fy mod hyd yn hyn heb ei dysgu." [1] Darllenai yr Emynau yn yr addoliad yn glir a phwysleisiol a phwyllog, sylwai yn fanwl ar y gynnulleidfa yn canu, ac os byddent yn ddiffygiol iawn attaliai hwynt, a dywedai nad oeddynt yn canu fel y dylent, a gofynai iddynt ail ganu. Byddai hyn, weithiau, yn peri i'r dechreuwr canu' fyned yn gynhyrfus, ac amryw yn y gynnulleidfa ofni, nes y pallent ganu gystal ag y medrent. Yr oeddym unwaith yn nghwmni bonedd-
- ↑ Yr Oenig. Cyf. I. tu dal. 341. Llythyrau at Gyfaill.