Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iges ddeallus iawn, ychydig ddyddiau ar ol iddo fod yn y capel y perthynai hi iddo, ac yn attal y gynnulleidfa felly. "Mr. ——" meddai, "yw ein dechreuwr canu ni, ac ato ef yr oeddym ni yn edrych am arweiniad. Os oedd gan Mr. Roberts ryw sylwadau i'w gwneyd, wrtho ef y dylasai eu gwneyd yn y tŷ capel ar ol darfod, ac iddo yntau ein dysgu ninnau wedi hyny, ac nid taflu y gynnulleidfa i ddyryswch ar y pryd, a tharfu ysbryd addoli." Tra yr ydym yn mawrygu zel Mr. Roberts, ac yn gwybod ei fod ef yn gwneyd hyny oddiar wir awydd cael y canu yn fwy teilwng, buom yn meddwl ganwaith fod synwyr a chrefydd yn sylwadau y foneddiges. Darllenai y bennod yn bwyllog a phwysleisiol, eto mewn ysbryd syml, dirodres, a defosiynol; deuai parch i'r gwirionedd yn amlwg yn ei ddull. Gweddïai hefyd yn syml a gostyngedig, yn feddylgar a difrifol, fel un yn ceisio rhoddi ei hun a'i wrandäwyr yn llaw ei Dduw. Yr oedd yn nodedig iawn fel gweddiwr. Wedi darllen ei destun yn eglur, esboniai ef yn feirniadol, gan ddwyn i'r golwg ffrwyth astudiaeth fanwl o hono, ac os byddai anghen rhoddai eglurhâd ar ystyr y gwreiddiol, eto heb ddim ymhoniad, nac un argraff ar feddwl ei wrandawyr o'i ysgoleigdod. Arweiniai yn feddylgar at ei destun, a thynai o hono y meddyliau y mynai alw sylw ei wrandäwyr atynt, mewn dull naturiol. Yna elai ymlaen. i egluro y meddyliau hyny, a dygai i'r golwg lawer o syniadau tarawiadol a thlysion-eto nid fel un yn casglu blodau, ond yn dilyn ei fater, ac yn taraw arnynt ar ei ffordd. Siaradai yn feddylgar a difrifol, eto gyda rhyw gymaint o awdurdod yn ei ddull a'i oslef, fel un yn teimlo fod y gwirionedd oedd ganddo yn hawlio sylw ei wrandäwyr ac y dylent hwythau roddi ystyriaeth iddo. Yr oedd ei lais yn naturiol ac yn cael ei lywodraethu yn dda, eto heb ddim tonyddiaeth na hwyl, er y gallai ennyniad teimlad ei galon beri i'w lais gryfhâu, ac i'r