Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awdurdod yn ei lais a'i ddull ddyfod yn fwy amlwg. Dywed un wrthym, fod ei ragymadrodd bob amser yn rhagorol, y canol heb fod mor flasus, ond deuai ond odid afael cyn y diwedd. Yr oedd yn gwbl rydd oddiwrth bob rhodres, ac ni cheisiai arwain y gwrandäwyr â "geiriau · denu," nac â dim mewn arddull, ond y gwirionedd ei hun yn syml. Eto nis gallai oddef i ddim fod ar ffordd ei wrandawyr i roddi sylw i'r gwirionedd yr oedd yn ei hawlio; byddai unrhyw ystumiau neu ymddygiad, neu swn, neu ysgogiadau a thwrf babanod, yn peri rhwystr mawr iddo. Y nodwedd mwyaf amlwg oedd hawlio astudrwydd ac ufudd-dod, am fod pwysigrwydd a difrifoldeb y gwirionedd yn galw am hyny. Felly nis gellir ei restru yn bregethwr poblogaidd, er fod y gwrandäwyr meddylgar a difrifol yn derbyn adeiladaeth drwyddo. Nis gellir dyweyd, ychwaith, ei fod yn siaradwr rhwydd na hyawdl, er nad oedd, o leiaf wedi y blynyddoedd cyntaf, ddim yn flinderus ynddo; ond teimlai ei wrandäwyr mai y gwirionedd a deimlai ac a draethai oedd yn hawlio sylw, ac nid dim neillduol yn ei allu ef i'w roddi allan. Fel y sylwasom, daeth i gyffyrddiad â Mri. Moody a Sankey yn 1874, a llanwyd ei ysbryd gan ysbryd eu hymdrech hwy. Ymollyngodd i gymhell y gwrandäwyr-yn wir, gadawai gyfansoddiad ei bregethau, er mwyn siarad yn syml â'r gwrandäwyr. Weithiau cymerai, fel Mr. Moody, "y gwaed" yn fater, ac olrheiniai ef, neu ryw fater cyffelyb, a gwelid yn amlwg ei fod ef ei hun yn llawn o ysbryd y diwygiad. Cafodd lawer o oedfäon grymus a llwyddiannus yr adeg hon, ac yn enwedig felly yn Penygraig, y capel bychan yn ymyl y Fron, lle yr hoffid ac y perchid ef mor fawr, ymunodd cryn nifer â chrefydd yno. Nis gallai neb a'i gwrandawai, gyda dim ystyriaeth, ammeu am foment nad oedd efe yn hoff gan Dduw, ac yn byw yn agos ato, ac yn meddu yr "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw." Yr oedd yn