Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bregethwr mawr mewn difrifoldeb, meddylgarwch, a defnyddioldeb, ond nid yn fawr yn yr ystyr a arferir yn gyffredin gan y llïaws.

Fel bugail, yr oedd yn gwir ofalu am yr achos yn ei holl ranau, ac yn hoffus iawn gan bawb oeddynt yn gallu nesu ato, ac yn neillduol barchus gan bawb oll o'i ddeiliaid; eto prin, hwyrach, y gellir dyweyd fod ei fugeiliaeth yn llwyddiannus gyda golwg ar y lliaws. Clywsom ef yn dyweyd, wrth anerch gweinidog ar ei sefydliad mewn eglwys, fod eisieu i'r bugail fod yn adnabod ei braidd ; nid yn gwybod eu henwau, a lle eu preswylfod, eu galwedigaeth a'u gwynebpryd, ond yn eu hadnabod yn adnabod eu cymeriad, tuedd eu hysbryd, a'u safle fel crefyddwyr. Yr oedd efe ei hun yn neillduol o fanwl a chraffus yn ei sylw ar bersonau ei ofal, er nad bob amser, hwyrach, yn agos atynt, eto gellid dyweyd, o'r bron, fod bob un wedi bod yn destun study ganddo. Yr oedd yn gydwybodol yn ei ddyledswydd gyda'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r rhai mewn oed. Yn y society, fodd bynag, ni fynai fyned i holi profiadau, ond gadael iddynt ddyfod allan fel ffrwyth addfed, os deuent. Ceid un o'r blaenoriaid i agor y society mewn rhyw gyfeiriaid, ac ymdriniaeth naturiol felly arno; neu ynte os deuent ar draws rhywbeth a'u harweiniai, i ryw gyfeiriad arall. Yr oedd hyn yn ddiddadl yn ddull rhagorol i roddi blas a phleser ac adeiladaeth i'r rhai yr oedd eu tueddfryd at bethau pur ac ysbrydol; ond y mae dosbarth i'w cael mewn eglwysi heb erioed gael y chwaeth hwnw, ac nid oes mewn dull fel hyn nemawr i dynu y dosbarth hwnw. Byddai ganddo sylw a gofal dros yr achos yn ei bethau allanol, er nad ymwthiai mewn un modd i ymyraeth â gwaith y diaconiaid. Yn y Bibl Teuluaidd cawn fel hyn, "1867, Gorphwysfa Chapel, Llanberis, was built," yn cael ei nodi fel dyddiad yn ei fywyd ef. Diam-