Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meu mai y rheswm am hyn ydyw ei fod ef ei hun wedi cymeryd llawer o'r drafferth gysylltiedig â dwyn y mater hwn i ben.

Fel Pregethwr, yr oedd yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac yn y cysylltiad hwnw yr oedd yn weithgar ac anwyl ymhlith ei frodyr. Yr oedd yn teimlo dyddordeb yn symudiadau y Cyfundeb; ac ymha le bynag y byddai, pa un ai yn y Cyfarfod Misol ai yn y Gymdeithasfa, yr oedd yn gryn lawer o'r man of business, a byddai ei sylwadau bob amser yn dangos synwyr a barn, er na byddai efe yn ymwthio yn y cysylltiad hwn ychwaith. Fel cadeirydd y Cyfarfod Misol, llywiai yn ddeheuig. Mae ambell un yn cael llawer o le ar eu dyfodiad cyntaf i gylch newydd, ond mewn amser yn darfod, a'i ddylanwad megys yn colli; ond nid un felly ydoedd efe, yr oedd ei nerth yn parhâu, ai ddyddordeb yn y gweithrediadau a'i weithgarwch yn parhâu. Efe oedd un o gynnrychiolwyr Cyfarfod Misol Arfon i'r Gymanfa Gyffredinol am 1876 ac 1877, ond yr oedd wedi marw ychydig ddyddiau cyn yr olaf. Efe hefyd oedd un o'r cynnrychiolwyr ar Bwyllgor y Genadaeth Dramor, ac un o'r pethau olaf a wnaeth dros y Cyfarfod Misol oedd ysgrifenu anerchiad at yr eglwysi gydag ystadegau y flwyddyn 1876, ac y mae yr anerchiad hwn wedi ei ddyddio "Fron, Ebrill 1877." Ystyrid ef yn rhestr flaenaf gwŷr y Cyfarfod Misol, ac yn un o'r rhai a dybid eu bod yn golofnau. Yn y blynyddoedd diweddaf, yr oedd y Cyfarfod Misol wedi pasio drwy gyfnod o crisis; yr oedd ymdrechion yn cael eu gwneyd i ddwyn diwygiadau i mewn, ond fel bob amser, anhawdd oedd dwyn hyny ymlaen heb wrthdarawiadau. Yr oedd efe yn galonog o blaid diwygiad, ac yr oedd ei bwyll a'i ddylanwad ef o werth mawr, fel y dygwyd y cwbl ymlaen, ar y cyfan, yn esmwyth a thangnefeddus, ac y cadwyd oddiwrth bob ysbryd an-