Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

frawdol, a chafodd y pleser o weled y Cyfarfod Misol wedi diwygio llawer iawn, ac yn edrych ymlaen i gyfeiriad dyfodol llwyddiannus.

Yn nechreu 1871, yn unol â chais y Dosbarth, ymgymerodd â gofal Cyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, yn yr hyn y parhaodd hyd ei farwolaeth. Clywsom ef y flwyddyn gyntaf; ac er fod y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen yn dda, nis gellid dyweyd fod ynddo neillduolrwydd fel holwyddorwr. Y mae holi ysgol yn gelfyddyd ar ei phen ei hun, ac nid i bob un y rhoddwyd y ddawn hono; ac y mae yn bosibl, o herwydd diffyg ymroddiad ac ymarferiad, fod llai o sylw yn cael ei dalu i'r gangen bwysig hon nag a ddylai fod. Tuedd rhy gyffredin ydyw gwneyd yr holi yn arholiad, i brofi gwybodaeth yr ysgoleigion; ond y mae hyny ynddo ei hun yn dangos mai ofer ydyw, oblegid os profi gwybodaeth, nis gellir profi lliaws gyda'u gilydd, rhaid eu cael yn fwy arbenigol i hyny. Ymroddodd efe ati o ddifrif i herffeithio ei hun yn hynyma, a'r cyfryw ydoedd ei allu i ymgymhwyso fel y daeth cyn hir yn un o'r holwyddorwyr goreu a glywsom erioed. Yn yr holi, arweiniai y plant, neu y rhai mewn oed, yn raddol i mewn i ganol y pwnc, gan daflu goleuni arno, a pheri i bawb gael blas neillduol yn yr ymddyddan. Cafwyd llawer o gyfarfodydd y cofir am danynt yn hir yn y Dosbarth hwn, ac yr oedd y llafur yma wedi cylymu serchiadau y wlad am dano. Yr oedd, yn ddiammheu, wedi costio iddo ef lafur caled, ond bendithiwyd ef yn helaeth ynddo.

Yr ydym, yn awr, wedi cymeryd golwg ar lafur pum' mlynedd ar hugain fel Cerddor, fel Llenor, ac fel Gweinidog. Ac wrth edrych drosto, nid ydym yn petruso ei alw yn llafur anferth! Oes fer, mewn cymhariaeth, ydoedd oes ei lafur cyhoeddus, ond oes a dreuliwyd trwy ddiwydrwydd anghymharol. Ni threuliai fynyd yn segur,