Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond gweithiai yn ddyfal, yn barhâus ac yn galed. Er na chafodd oes faith, treuliodd oes fawr, a chyflawnodd waith anghyffredin o fawr mawr yn ei swm, mawr yn ei amrywiaeth, mawr yn ei werth a phurdeb ei natur. Mae ambell un yn codi rhyw un gofgolofn iddo ei hun, wrth yr hon y cysylltir ei enw, ond cododd efe amryw. Yr oedd y meddwl cryf, iraidd a bywiog oedd ganddo, fel yn ymwthio i mewn i bob cyfeiriad, ac yn cyfoethogi y byd â'i lafur ar bob llaw. Fel yr afon Rheidol yn nghymydogaeth Penllwyn, yn ymlwybro tua'r môr, weithiau yn ireiddio'r coedydd, bryd arall yn dyfrhâu y ddôl a'i chynnwys, a thrachefn yn disychedu'r trigolion, felly yr oedd yntau; fel cerddor, fel llenor a bardd, ac fel pregethwr, yr oedd yn ceisio barhâus at fod o ryw ddefnydd a llesâd. Ni ddychymygasom fod ffrwyth ei lafur mor anferth, hyd nes i ni wneyd ymchwiliad iddo, ac y mae yn ddiammheu mai ychydig sydd wedi synied am eangder a rhagoroldeb llafur Ieuan Gwyllt.