Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V.

EI NODWEDDION.

DYN o daldra canolig, ei wallt wedi bod yn ddu a chrych, ond yn dechreu britho 'drwyddo, yn enwedig yn y front,—ei dalcen yn llydan a llawn, ond nid yn uchel,—yn gwisgo "dau bâr o lygaid," ond o dan y gwydrau y mae dau o lygaid bychain duon a threiddiol, o dan aeliau duon hollol—gwynebpryd llwydaidd, a thipyn o ôl y frech wen arno—genau lled gauedig, yn arwyddo penderfyniad, ond wedi ei hamgylchu a'i gorchuddio â barf fuasai yn ddu, ond yn awr yn frithedig, lled fer, a stiff, wiry—dwylaw bychain gwynion, yn gymhwys at ysgrifenu llawer―llais bassawl, nid cryf, ond yn amlygu diwylliant a thynerwch— o duedd wylaidd a diymhongar—un na fuasai yn tynu llawer o sylw ymhlith y lliaws,—rhywbeth fel yna fuasai y desgrifiad o babell ddaearol Ieuan Gwyllt ychydig flynyddoedd cyn diwedd ei oes; a'r blynyddoedd, o bosibl, yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredinol trwy Gymru. "Ai hwnyna yw Ieuan Gwyllt?" fuasai yn dueddol i ddyn dyeithr ofyn pe dangosid ef iddo; nerth ei feddwl a'i gymeriad oedd wedi ennill iddo ddylanwad, ac nid yn gymaint ei ymddangosiad allanol.

O ran ei feddwl, yr oedd o duedd athronyddol ac ymresymiadol. Hoffai olrhain effeithiau yn ol at eu hachosion, ac ymchwilio i'r egwyddorion a'r deddfau oedd yn llywodraethu y cwbl. Cymerai olwg eang a theg ar bob mater a gymerai mewn llaw, rhoddai bob chwareu teg i bob gwrthddadl a allai godi, a chydnabyddai yn deg, os byddai dylanwad gan yr ystyriaeth o honi, ar y pwnc dan sylw. Ar yr