Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un pryd, gafaelai ei feddwl yn dỳn a di—ildio mewn egwyddorion mawr, a mynai gael eu lle priodol iddynt. Medrai gredu yn gryf, ac wedi credu yr oedd y grediniaeth yn egwyddor sefydlog ynddo, yn dylanwadu ar ei holl ymddygiadau. Gallem dybied hefyd ei fod ef ei hun yn destun astudiaeth drwyadl ganddo, a'i fod yn meddu adnabyddiaeth llwyr o hono ei hun. Yr oedd hyny yn naturiol iddo ef, a barnai y byd oddiallan i ryw raddau yn ol fel yr oedd yn adnabod y byd oddimewn. Yr oedd hyny yn peri fod ynddo ryw gymaint o reservedness, y teimlai dyn ryw gymaint o wyleidd—dra wrth agosâu ato, ac a barai iddo yntau hefyd gadw rhyw bellder rhyngddo ag eraill ar y cyntaf. Ond yr oedd yn rhaid dyfod yn nês ato cyn y gellid ei adnabod ef yn iawn, a dyfod ato hefyd mewn ffordd a gymeradwyai ei ysbryd. Os gwelai efe ddim byd tebyg i hyfder, neu erwinder, neu rywbeth anmhriodol mewn dyn, ciliai yn ol iddo ei hun, a byddai yn sefyll fel ar ei amddiffynfa. Yr oedd hyn yn peri nad oedd y llïaws yn ei adnabod yn drwyadl, ond yn unig yn ol y syniadau a ffurfient am dano yn y pellder, ac yn ei osod yn agored iawn i'w gamgymeryd. Yr oedd felly yn byw i lawer o raddau mewn unigrwydd hyny yw, ynddo ei hun; ond yn yr unigrwydd hwnw sylwai yn fanwl ar eraill, a meddai lawer iawn o graffder i adnabod cymeriadau dynion y deuai i gyffyrddiad â hwynt. Yr oedd fel pe yn trigo mewn tŵr amddiffynol, o'r hwn ni ddeuai oni byddai yn teimlo yn lled ddiogel fod pob peth yn dda, ond yn yr hwn yr oedd pob darpariaeth ar gyfer sylwadaeth fanwl, i wybod pa beth ac o ba fath natur a agosâi ato. Ond gadewch i ni geisio nesâu ato a chael rhyw syniad am y neillduolion a berthynent i'w gymeriad.

1. Penderfyniad.

Yr ydym wedi sylwi fod hyn wedi dyfod i'r golwg ynddo yn lled ieuanc, i'r rhai oedd yn gwybod oreu am dano. Ac