Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erbyn i ni edrych arno drwy holl helyntion ei fywyd, yr ydym yn cael fod hyn i'w weled yn un o'r pethau amlycaf. Mynai gael yr hyn a feddyliai am dano, neu fe drengai yn yr ymdrech; ond nid ffolineb mympwyol dyn asynaidd oedd hyn ynddo ef, ond am y credai fod yr hyn a geisiai yn iawn ac yn deilwng. Eto yr oedd yn deall y natur ddynol yn ddigon da, i wybod mai nid ymhob ffordd y gellir ei chael i'r iawn, ac fod yn rhaid cymeryd i mewn i'r ystyriaeth y rhwystrau, yr anhawsderau, a thueddiadau dynion. Yn hyn, addefwn i ni gael ein siomi ynddo. Buom unwaith yn tybied, os byddai wedi credu fod rhywbeth yn iawn, y mynai ei gael, a'i gael yn y ffordd a dybiai efe yn briodol, pa un bynag ai dyma y ffordd ddoethaf. Ond wedi dyfod i adnabyddiaeth fwy trwyadl o hono, gwelsom ein bod wedi camgymeryd, ac fod ei benderfyniad ef yn cael ei lywodraethu yn hollol gan farn a doethineb a phwyll, a'i fod yn barod i "gymeryd a rhoi,"—i fabwysiadu unrhyw lwybr cyfreithlawn i gyrhaedd yr amcan; ond yr oedd yn benderfyniad er hyny, yr hwn ni roddai i fyny ar frys. Yr ysbryd penderfynol hwn a'i galluogodd i.gyrhaedd y pulpad, er gorfod gorthrechu blynyddoedd o wrthwynebiadau. Ac o herwydd yr un peth yr ydym yn cael amcanion oedd wedi dyfod i'r golwg yn gynnarach, ond o herwydd rhyw amgylchiadau yn cael eu cuddio o'r golwg dros dymmor, ac ar ol hyny, yn yr adeg briodol, yn cael eu rhoddi mewn gweithrediad; fel ambell i afon, ar ol cychwyn am enyd, yn gorfod rhedeg am dymmor dan y ddaear, ond wedi hyny yn dyfod i'r golwg ac yn rhedeg ei gyrfa. Gorchfygodd y penderfyniad hwn ynddo ef lu anferth o rwystrau o bob math ac o bob cyfeiriad, fuasent wedi tori calon un o ysbryd mwy llwfr. Dyma'r mettle fuasai yn gwneyd y tro i gadfridog milwrol; yn wir, cadfridog milwrol ydoedd, ond yn ngwasanaeth rhinwedd a gwirionedd, ac nid ar faes y gwaed. Ac y mae yr ysbryd-