Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth hyn i'w deimlo drwy y rhan fwyaf o'i gyfansoddiadau, yn gerddorol, rhyddieithol, a barddonol,—yn stamina sydd yn rhoddi nerth a chryfder i'r cwbl.

2. Chwaeth bur.

Nid ydym yn gwybod i ni ddyfod i gyffyrddiad â neb erioed ag yr oedd hyn i'w brofi yn fwy trwyadl ynddo yn ei holl gysylltiadau. Lle bynag y cyfarfyddid ef, ai yn ei ymddyddanion, ei anerchiadau, ei ysgrifeniadau, ei lafur cerddorol, ai pa peth bynag a wnelai, teimlid fod yno chwaeth bur ynddo yn y cwbl. Yr oedd fel pe buasai ei gylla heb anadlu dim erioed ond awyr bur mynyddoedd Cymru, ac felly yn fyw i bob anmhuredd; ei glust heb arfer â dim ond seiniau tyner cydgord, ac felly yn rhy dyner i allu dyoddef anghydgordiad. Gwelwch ef yn eistedd yn y gyngherdd, yn nghanol y gerddoriaeth brydferth,—os daw dros wefusau y cerddor air neu syniad isel chwaeth, chwi a ganfyddwch ei aeliau yn gwgu, ac yntau yn eistedd yn anesmwyth, fel pe b'ai ei nerves wedi cael shock. Heb son am ddim byd llygredig a phechadurus, yr oedd ei deimlad ef yn fyw hollol i bob gair garw, a phob ymddygiad anfoneddigaidd, a phob teimlad anghysurus. Nid yn unig yr oedd yn fyw, yr oedd yn sensitive neillduol yn hyn o beth. Cyfaddefwn i ni deimlo chwilfrydedd mawr, wrth fyned i chwilio am ei hanes, i gael gwybod o ba le y cafodd y chwaeth bur yma oedd ynddo, ac wedi gwreiddio mor ddwfn yn ei natur; ond yr ydym yn methu a chael dim cyfrif digonol am dano, ac yn gorfod syrthio yn ol ar y dybiaeth mai rhywbeth a roddwyd ynddo gan y Creawdwr mawr ei hun ydoedd. Bid sicr yr ydym yn ei gael yn dyfod i gyffyrddiad â dynion da o dro i dro, ac yn darllen y llyfrau goreu, &c. ; ond y mae llawer heblaw efe wedi cael cystal, a mwy o fanteision, ond yr ydym yn cael fel pe buasai rhyw duedd reddfol ynddo yn ei dynu i ddewis cymdeithasu â'r goreu o bob peth ac i gilio oddi-