Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth y gwael a'r di-chwaeth. A dyma, ni a dybiem, ei brif ragoriaeth ei gryfder mawr. Y chwaeth ardderchog sydd ynddo sydd yn gwneyd ei Lyfr Tonau gymaint yn rhagorach nag un arall y gwyddom am dano, ac sydd hefyd yn nodweddu ei holl ddetholiadau cerddorol. Hwyrach mai y nesaf ato yn hyn o beth oedd Mr. J. Ambrose Lloyd. Yn Mr. Lloyd yr ydym yn cael chwaeth ardderchog yn gysylltiedig â thynerwch; yn Ieuan Gwyllt yr ydym yn cael chwaeth bur, yn gyfunedig â stamina penderfyniad, yr hyn a wnaeth. iddo ennill mwy o ddylanwad ar ei oes. Yn ei chwaeth yr oedd yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o'i gydoeswyr, o leiaf, a lafurient yn yr un meusydd ag ef; ac nid ydym yn meddwl y gellir pigo allan air na sill o'i holl lïaws ysgrifeniadau yn bradychu gerwinder na diffyg chwaeth. Ac yn hyn hefyd, ni a dybiem, y gwnaeth argraff ddyfnaf ar ei oes. Gwasgarodd lawer o oleuni gwybodaeth yn wleidyddol, yn foesol, ac yn gerddorol, a bu yn foddion i gynnyrchu llawer o ysbryd llafur, yn enwedig ymhlith cerddorion; ond mwy o lawer na'r cwbl yw y cyfnewidiad a gynnyrchodd yn chwaeth, ac yn benaf, yn chwaeth gerddorol Cymru. Drwy nerth a dylanwad ei chwaeth bur ef, claddwyd, nes myned yn hollol i dir anghof, lawer o ysgerbydau oedd yn llygru meddyliau dynion; ac y mae yr un chwaeth wedi adgenedlu ei rhyw yn mynwesau cymaint o'n cydwladwyr erbyn heddyw, fel na faidd ysbrydion y tywyllwch adgyfodi yr ysgerbydau hyny am lawer o amser, a chredwn bron hyd byth.

3. Boneddigeiddrwydd.

Y mae hyn yn tarddu yn naturiol oddiwrth y diweddaf. Nid ydym yn cyfeirio at y boneddigeiddrwydd allanol hwnw sydd yn gynnwysedig mewn rhyw ffurfiau â seremonïau, y gesyd rhywrai bwys arno, ond gwir foneddigeiddrwydd ysbryd. Yr oedd efe yn oleuedig, wedi gwneyd y defnydd goreu o'r manteision a gafodd, ac wedi llafurio