Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn galed i ddiwyllio ei feddwl; yr oedd hefyd yn gywir— yn gywir i'w egwyddorion, nid oedd twyll na hoced yn perthyn iddo, ac nis gallai ei oddef; ac yr oedd yn meddu teimladau o'r fath fwyaf tyner a charuaidd ;—a'r pethau hyn, mewn undeb â'u gilydd, a wnaent ynddo ddynoliaeth gyflawn a gogyhyd. Mewn canlyniad, yr oedd yn onest, yn berffaith onest, yn ei ymddygiadau, a'i broffes, a'i ymddangosiad. Yr oedd hefyd yn anrhydeddus—ni wnai dro bychan â neb pwy bynag; a pha faint bynag o gam a dderbyniodd efe ei hun oddiar law eraill, yr oedd efe yn rhy anrhydeddus i feddwl talu y pwyth yn ol; gwell ganddo ddyoddef cam ddengwaith na gwneyd cam unwaith. Clywsom ddynion rai troion yn priodoli iddo gymeryd mantais ar ryw amgylchiadau er ei les ei hunan, neu ei ddyrchafiad. Ond tybiem mai dynion heb ei adnabod ef yn ddigon trwyadl oedd dynion felly; po mwyaf yr adnabyddem ni ef, dyfnaf fyddai ein hargyhoeddiad na wnaethai efe er dim yr hyn y teimlai y petrusder lleiaf nad ydoedd yn hollol anrhydeddus. A gofalai am ymddwyn at eraill gyda thynerwch a pharch; os byddai byth lymder ynddo ef, llymder at yr hyn ydoedd ddrwg ydoedd, a'i awydd angerddol i gael dynion yn rhydd oddiwrtho. Rhoddai efe bob amser barch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, ac ufudd—dod i'r hwn y mae ufudd-dod, ac nid oedd neb y gellid ymddiried yn fwy llwyr i'w foneddigeiddrwydd, a'i anrhydedd, a'i gydwybodolrwydd.

4. Ymroddiad.

Dyma elfen arall oedd i'w gweled yn neillduol ynddo. Nid penderfyniad i gyrhaedd rhyw nod, fel pe buasai yn rhaid i eraill roddi lle iddo, a chan ddibynu ar ei alluoedd i'w lenwi pan ddelai yr adeg. Ac nid rhyw ymwybyddiaeth o ryw ragoriaeth ynddo heb lafur ydoedd. Adnabyddai ei allu yn dda, a theimlai nad priodol iddo feddwl am wneyd lles, heb lafurio yn galed i gymhwyso ei hunan