Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y diwedd i ddarllen a myfyrio llawer i gymhwyso ei hun; ac ar y llaw arall ymroddai o ddifrif yn yr holl waith a gyflwynid iddo i'w wneyd. Yr oedd y llafur cyntaf wedi rhedeg o ddechreu ei oes hyd y diwedd; yr oedd y llall yn ymagor o'i flaen yn raddol. Ond pa le bynag y byddai, pa un bynag ai yn swyddfa'r cyfreithiwr, ai yn nghadair · y golygydd, ai ynte mewn llafur cerddorol neu bregethwrol, byddai bob amser yn hollol ymroddedig. Ac hwyrach y dylem grybwyll un neu ddwy o ffeithiau eraill mewn cysylltiad â hyn, sydd yn dangos ei ymroddiad i wneyd pobpeth yn iawn. Ni a'i gwelsom mewn llawer o gysylltiadau ag y dysgwylid wrtho, ond nis gwelsom ef erioed yn ymaflyd mewn unrhyw waith gydag esgusawd drosto ei hun nad oedd wedi cael amser i barotoi; byddai efe bob amser yn barod. Clywsom ef yn esgusodi eraill, y cantorion heb gael amser i ymarfer, neu yr ysgoleigion yn y Cyfarfod Ysgol heb gael amser i barotoi, ond ni chlywsom ef erioed yn rhoddi esgusawd drosto ei hun. A pheth arall, ni chai neb ddysgwyl wrtho ef. Credwn ei bod yn ffaith na chafodd un newyddiadur y bu yn ei olygu fod un diwrnod yn rhy ddiweddar yn dyfod allan o herwydd ei esgeulusdra ef. Gwers amlwg yn ei hanes ydoedd, "Gan brynu yr amser."

5. Craffder a Barn.

Yr ydym wedi cyfeirio at hyn yn flaenorol, a'r unig reswm ein bod yn ail grybwyll ydyw, fod y pethau hyn. i'w gweled yn bur amlwg ac arbenig ynddo. Ac y mae hyn yn beth lled anghyffredin mewn un oedd yn meddu cymaint o alluoedd cerddorol; oblegid os ceir un gallu cryf iawn, fel rheol gyffredin, ni bydd y galluoedd eraill yn arbenig felly. Y mae cerddoriaeth yn iaith y teimlad; y mae hi a'i chwaer barddoniaeth yn ymwneyd mwy â'r galon a'r dychymyg, na'r galluoedd eraill. Rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan hon, onidê ni a allwn gael ein camgymeryd yn