Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawdd, a syrthio i ddwylaw lled drymion; ond byddai hyny ynddo ei hun yn brawf cryf o'n pwnc. Nid dyweyd yr ydym fod cerddorion yn ddiffygiol mewn craffder a barn, ond nad oes yn y cyffredin arbenigrwydd mawr ar y pethau hyn ynddynt. Ond y mae hanes bywyd Ieuan Gwyllt yn lled ryfedd—y cerddor galluog yn cael ei roddi dan addysg Mr. J. Evans, y mathematician, wedi hyny yn swyddfa'r cyfreithiwr, ac yn olaf yn olygydd newyddiadur i arfer ysgrifenu i'r wasg. Diammheu fod y training hwn a gafodd, er mor wahanol i'r hyn y buasem yn ei ddysgwyl tuag at ddwyn allan y cerddor,—eto ei fod wedi dylanwadu rhyw gymaint arno fel cerddor, ac wedi bod o gymhorth mawr i'w wneyd yr hyn ydoedd. Dyma a'i gwnaeth yn feirniad cerddorol mor ragorol, ac a'i gwnaeth yn ŵr o farn a chynghor mewn llawer cysylltiad, ac yn gymhwys i fod yn "dad" meddyliol i lawer, y teimlent y gallent ymddiried yn ei farn a'i gynghor. Yr oedd wedi arfer "gweled drwy" achosion a chymeriadau, a dysgu siftio evidence; ond prin y buasai neb yn tybied fod hyny yn ei gymhwyso i lanw cylch hollol wahanol, ac yn ymarfer ynddo y galluoedd oedd i osod sefydlogrwydd a nerth iddo yn y cylch hwnw. gyfunedig â hyn, ond yn hollol wahanol, yr oedd

6. Tynerwch teimlad.

Buasem yn dysgwyl hyn, wrth gwrs, yn y cerddor; er hyny, nid oedd i'w gael ar y wyneb ynddo ef, yr oedd yn rhaid myned i mewn cyn dyfod o hyd iddo. Yn y cyffredin y mae cerddorion o deimlad tyner, ond gwelsom gerddorion yn tywallt allan eu calonau mewn dagrau, lle y buasai Ieuan Gwyllt fel colofn o farmor, os nad yn rhywbeth pellach na hyny oddiwrth dynerwch teimlad. Eto, yr oedd y tynerwch ynddo, ond yn ddwfn a phur. Er nad oedd, o bosibl, yn meddu ond ychydig o allu i ddenu a llywodraethu plant, eto yr oedd yn eu