Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

caru â'i holl galon, ac yn meddu syniad clir am eu pwysigrwydd; efe, ni a dybiwn, ddewisodd yr enw prydferth "Egin yr Oes" arnynt. Tra na fedrai cerddoriaeth wag ddylanwadu dim arno, nid oedd neb yn meddu y gallu i deimlo yn gynt nac yn ddyfnach y "rhywbeth" hwnw sydd i'w brofi mewn gwir hwyl addoliadol. Yr oedd ynddo serchiadau a theimladau cryfion a dwfn, ond yr oeddynt hefyd dan lywodraeth barn a rheswm.

7. Duwiolfrydedd.

Yr ydym yn dywedyd duwiolfrydedd ac nid crefyddolder, oblegid y mae y cyntaf yn cynnwys mwy na'r olaf. Mae llawer un yn wir a chydwybodol grefyddol, ond heb roddi ei fryd ar dduwioldeb. Ond yr oedd efe felly; nid dyn duwiol cyffredin ydoedd, ond un wedi ymroddi i hyny yn uchaf ac yn benaf peth. Ac yr oedd yr holl nodweddion a nodasom yn cydgrynhoi yn y peth hwn. Yr oedd ei ysbryd penderfynol yn ei gadw yn gryf ar lwybr duwioldeb, ei chwaeth bur yn peri iddo ddewis y pethau uchaf a goreu allai crefydd roddi iddo, ei foneddigeiddrwydd yn foneddigeiddrwydd Cristionogol hollol, ei graffder a'i farn yn gwbl dan lywodraeth crefydd Iesu Grist, a'i deimlad yn fyw i argyhoeddiadau yr Ysbryd Glân. Yr oedd y cwbl yn gysegredig ac yn ddarostyngedig i grefydd, ac yr oedd hono wedi ei chydwau â holl alluoedd ei feddwl a'i galon. Mewn canlyniad dyma oedd ei egwyddor fawr lywodraethol, yn gwneyd ei gymeriad yn bur ac yn ddifrycheulyd, ac yn hyn yr oedd yn esiampl ardderchog í holl gerddorion Cymru. Mae Cymru wedi bod yn anffodus fod llawer wedi bod o'i beirdd a'i cherddorion mwyaf talentog yn ddynion o gymeriadau isel a llygredig, ac y mae hyny wedi bod yn rhwystr mawr i lwyddiant barddoniaeth a cherddoriaeth, yn gystal ag i ddyrchafiad moésol y genedl. Ond ynddo ef, yr oedd ei gymeriad yn ei godi i safle uchel o ddefnyddioldeb a dylanwad, ac nid oedd ynddo ddim