Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diffyg moesol i beri i neb warafun iddo ei le priodol. A bu nerth a phurdeb ei gymeriad ef yn gynnorthwy mawr i buro awyrgylch Cymru, ac i beri i'r genedl ddyfod i deimlo fod yn rhaid iddi ddangos anghefnogaeth i gymeriadau diffygiol, pa beth bynag fyddai dysgleirdeb eu talentau. Ond yr oedd yma fwy na hyn eto ynddo ef, cysegru ei dalentau i wasanaethu crefydd yn uchaf ac yn benaf oedd nod mawr ei fywyd. Yr oedd yn caru crefydd Iesu Grist uwchlaw pob peth, ac i wasanaeth Duw yr ymgyflwynai yn hollol a llwyr. Yr oedd yn rhaid fod un fel hyn yn weddiwr mawr, ac yn fyfyriwr dyfal yn ngair Duw, er nad oedd yn gwneuthur un arddangosiad o hyny. Yr oedd ei holl lafur ymhob cyfeiriad yn ddarostyngedig i hynyma, dyrchafu crefydd Mab Duw, a chael ei lle priodol iddi yn meddyliau dynion. Dengys hyny ei fod ef ei hun wedi sugno yn ddwfn o ysbryd crefydd. Ac felly yr ydoedd, nis gallech fod yn ei gwmni am ychydig amser heb deimlo fod naws crefydd yn gorphwys ar bobpeth a wnelai. Yr oedd yn gymeriad ardderchog, gwir ardderchog, ac i'r rhai oedd yn meddu chwaeth at y pur a'r sanctaidd, yr oedd efe yn hoffus iawn; a pho fwyaf agos yr elid ato, a mwyaf cydnabyddus âg ef, mwyaf oll fyddai eu hedmygedd o hrono, a'u syndod ato, fod yn bosibl i ddyn ymgysegru mor llwyr i wasanaethu crefydd, ac yfed mor llwyr o'i hysbryd. Ond nid oedd ynddo ddim deddfoldeb; nid wedi gosod rheolau manwl iddo ei hun yr ydoedd, ond ysbryd crefydd wedi treiddio i'w natur, fel yr oedd byw iddo ef, o anghenrheidrwydd natur, yn fyw crefyddol.

Yr ydym wedi sylwi ei fod yn dueddol i gael ei gamddeall, ac fe'i camddeallwyd ef gan laweroedd; o bosibl, nad oedd neb yn ei oes y camgymerwyd cymaint am dano. Y mae un wedi sylwi, fod dynion mawr bob amser yn cael eu camgymeryd am ryw adeg o'u hoes; ond yr oedd efe yn agored i hyn ar hyd ei oes, a chan y rhan