Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwyaf o'r rhai nad oeddynt yn ei adnabod yn ddigon da. Argraff ar feddwl llawer oedd mai dyn peevish a chas ydoedd efe. Yr ydoedd hyn yn gamgymeriad hollol. Achlysurid y dybiaeth hon gan ei lymder yn erbyn pob annhrefn, yn enwedig gyda phethau cysegr Duw. Yr oedd fod dyn enwog o'r enw Ieuan Gwyllt yn dyfod i arwain y canu cynnulleidfäol yn beth mor ddyeithr a rhyfedd, fel y byddai lliaws yn dyfod yno i weled a llygadrythu, a chan y byddai, o bosibl, yn rhaid iddo roddi y canu drwy dipyn o ddysgyblaeth er mwyn ei wella, blinai y dosbarth hwn, ac elent allan ar ganol y canu. Yn wir, yr oedd yn anhawdd iawn iddo ef ddal amynedd mewn amgylchiadau o'r fath. Ni byddai gan y bobl feddwl am addoli mewn cyfarfod canu. Ac hyd yn nod yn ein cyfarfodydd addoli, yr oedd wedi bod, ac y mae eto lawer o annhrefn a thrwst sydd yn dangos diffyg parch i dŷ Dduw. I ddyn o'i fath ef, oedd â'i chwaeth mor uchel, a'i deimladau crefyddol mor dyner, yr oedd ymddygiad o'r fath yn ddolurus i'r eithaf; ac nis gallai lai na cheryddu yn llym, a chael ei ddyrysu. Am hyny dywedid, "fel y mae ei enw, felly y mae yntau." Ond y mae yn ammheus genyma welwyd ef erioed wedi colli ei dymher mewn amgylchiadau fel hyn. Addefwn y gwelwyd ef yn ddoluredig a dyrysedig nes methu myned ymlaen, ond pwnc arall ydyw i ddyn golli y llywodraeth arno ei hun, ac nis gallwn ni gofio am un amgylchiad y gallwn ddyweyd ei fod felly. Teimlai i'r byw yn ngwyneb annhrefn a drwg, a thaniai ei zel yn ei erbyn, ac yn y teimlad hwn llefarai nes y byddai i'r rhai a gondemnid deimlo yn ddigofus; ond y mae yn ammheus genym a oedd efe ei hun yn cyflawni pechod. Nid ydym yn teimlo un awydd i guddio bai, pe credem ei fod felly; ond y mae dyweyd ei fod wedi colli ei dymher ar lawer achlysur mewn lleoedd cyhoeddus ger bron tyrfaoedd o bobl, yn gyhuddiad lled