Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwysig. Hyd yn nod pe buasai felly, gwyddom y gallasai ddyweyd wrth ei gondemnwyr mwyaf, "Mi a aethum yn ffol, chwychwi a'm gyrasoch." Ond o'r tu arall, yr ydym yn cael fod y rhai oedd yn ei adnabod oreu, a'i gyfeillion penaf, yn cyd-dystio ei fod er yn blentyn yn hynod o garedig a llariaidd ei dymher, ac na byddai un amser yn colli llywodraeth arno ei hun. A dyma'r argraff a gaffai pob un a ddelai i gydnabyddiaeth agos âg ef ar hyd ei oes. Dywedai boneddwr wrthym y dydd o'r blaen, yn nhŷ yr hwn y buasai yn aros am lawer o wythnosau o dro i dro, nad oedd un dyn ar wyneb y ddaear y teimlent yn fwy dedwydd o'i weled yn dyfod i edrych am danynt. Ac y mae ystyriaeth o nodweddion arbenig ei gymeriad yn cadarnhâu yr un syniad. Felly, yr ydym yn cael ein harwain i gredu yn bur gryf mai cael ei ddolurio y byddai yn gymaint nes methu myned ymlaen. Yr oedd yn nodedig o dyner ei deimlad a sensitive, ac y mae hyn yn hawdd i'w gredu am dano.

Argraff arall a goleddid am dano oedd ei fod yn bell ac anhawdd cymdeithasu âg ef. Fel y sylwasom o'r blaen, yr oedd rhyw argraff felly i'w gael ar y cyntaf, ond wedi tori trwy hyn a dyfod i'w gyfeillach, teimlid nad oedd eisieu neb mwy rhydd. A phan y bu farw, y teimlad mwyaf cyffredinol yn mynwes pawb oedd yn ei adwaen oedd hiraeth dwys ar ol yr "anwyl Ieuan Gwyllt." Nid llawer o rai fu erioed yn cael ei anwylo yn fwy; yr oedd awyrgylch ei ymddyddanion yn llawn sirioldeb a chyfeillgarwch tyner.

Tybid weithiau hefyd ei fod yn un llym, awdurdodol, a thra-arglwyddaidd. Yr oedd yn gryf a llym yn erbyn yr hyn a ystyriai allan o'i le, codai ei burdeb a'i gydwybodolrwydd yn erbyn hyny. Ond os tybid ei fod yn hoff o awdurdodi, ac yn anhawdd cydweithio âg ef, nid oedd bosibl fod camgymeriad mwy. Fel arall yn hollol, nid