Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn unig cai pawb fyddent yn ceisio cydweithio i wneyd daioni bob chwareu teg, ond caent ynddo ef un a roddai bob cefnogaeth, a chymhelliad, a chynnorthwy i weithio, ac ymdrechai hyd yr oedd ynddo i wneyd lle i'r cyfryw. Nid oedd dim yn ei foddhâu yn fwy na gweled pob dyn yn ymdrechu yn ol ei allu i wneyd daioni. Yr ydym yn dyweyd hyn oddiar brofiad personol; a pha mor fyr bynag fyddai gallu dyn, ac afler ei ymdrech, byddai ganddo ef lygad craff i weled yr amcan, ac y mae llaweroedd yn Nghymru heddyw a deimlant barch i'w goffadwriaeth, am ei nawdd a'i ymgeledd iddynt yn eu hanelwig ymdrechion cyntaf.

Dichon fod ambell un yn tybied ei fod yn bur ofalus am ei les personol. Clywsom, os na welsom, mewn argraff, sylw felly mewn cysylltiad â dodi enwau y tônau yn y Llyfr Hymnau uwch ben yr Emynau, fod hyny yn advertisement i'w lyfr ef. Ond dyeithrwch iddo ef, a drwgdybiaeth ddiachos, a barai i neb dybied felly am dano. Y gwir ydyw, mai ychydig sydd, os oes neb yn fyw yn awr, a aberthodd gymaint er mwyn Methodistiaeth a'i wlad a'i genedl. Aberthodd fywioliaeth gysurus er mwyn cael gwasanaethu ei genedl yn y cylchoedd y bu ynddynt; a pha fantais arianol bynag a dderbyniodd, nid oedd ond annheilwng gyflog iddo am lafur ei oes. Rhaid cofio hefyd ei fod lawer gwaith wedi colledu ei hun yn ddwfn yn ei ymdrechion, a phe dadguddid y cyfan, credwn y synai llaweroedd at yr hyn a aberthodd wrth lesâu eraill.

Y mae yn bosibl ei fod ef ei hun yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r modd y camgymerid ef, ac y drwgdybid ei amcanion, a chafodd lawer gwaith brofi ymddygiadau oeddynt yn dangos mai diffyg adnabyddiaeth o'i gywirdeb oedd wrth eu gwraidd. Ond cadwai ei holl ofidiau iddo ei hun; teimlai yn ddwys oddiwrthynt, ond troai ei deimladau briwedig i'w galon ei hun, ac ni chai eraill flino o'i herwydd.