Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac ni feddyliai byth am lochesu dig na dial; os deuai y cyfleusdra iddo, talai y pwyth yn ol mewn caredigrwydd. Gallai cof am y chwerwder, hwyrach, beri iddo fod yn ochelgar gyda'r cyfryw ar ol hyny, ond credwn fod maddeugarwch yn ras amlwg iawn i'w weled ynddo.

Fel penteulu, yr oedd yn dyner a gofalus a thra charedig. Yr oedd yr undeb rhyngddo ef a'i briod yn gwlwm dedwyddwch a chariad. Mae ambell ŵr priod o ddyn da, eto yn meddu rhyw ymdeimlad o'i uchafiaeth ar ei wraig, fel mai ufuddhâu a chario allan ei ewyllys ef yw amcan ei bodolaeth hi, ac ni chaiff wybod o'i hanes a'i gyfrinach ond yr hyn a welo ei "harglwydd" yn dda o'i ras ei ddadguddio iddi, fel briwsion yn syrthio oddiar fwrdd y meistr. Ond nid felly yr ydoedd efe: os cadwai ddim oddiwrth ei briod, ni chadwai ond yr hyn a'i gofidiai, a rhag peri tristwch iddi; ond am bob peth arall, ymddiriedai ynddi fel un y gallai dywallt ei holl galon iddi. Y noson y daeth adref o'r daith ddiweddaf o Ddeheudir Cymru, arosodd ar ei draed yn hwyr gyda hi i adrodd iddi yr hyn oll a welodd ac a glywodd, yr holl fanylion, ac ar y diwedd dywedai, Wel, am a wn i, fy mod wedi dyweyd y cwbl wrthych bellach." Yn ol ein syniad ni, nis gall fod perffaith ddedwyddwch heb ymddiriedaeth llwyr o du'r naill a'r llall fel hyn. Yn ei gartref yr oedd yn ŵr penaf, ond llywodraethai mewn tangnefedd a heddwch, ac nid oedd na thra—awdurdod na chynhwrf yn aflonyddu'r lle.

Fel cyfaill, yr oedd yn gywir a phur i'r eithaf. Gellid ymddiried ynddo, ac ymddiriedai yntau yn y rhai y credai eu bod yn wir gyfeillion. Nid un a fyddai yn gyfaill ambell dro, ac ar adeg arall a wnai dro bychan â dyn ydoedd efe. "Cadwai gariad " yn ol cynghor y gŵr doeth, ac yr oedd ei "gariad" ef yn gyfryw na "feddyliai ddrwg," ac na "chwympai ymaith," oddieithr i ddrwg moesol gyfryngu. Gallai gydymdeimlo a chysuro