Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn trallod, ac amddiffyn mewn ymosodiad. Nid oedd yn anhawdd gwneyd cyfaill o hono, oni byddai rhywbeth annheilwng yn yr hwn a geisiai hyny; ond wedi dechreu cyfeillgarwch, cai ei gadw, o'i ran ef, yn ffyddlawn a chywir hyd byth.

Fel dyn, yr oedd ynddo holl elfenau dynoliaeth gyflawn, a phob rhinwedd gwladol a moesol a gai ei gefnogaeth galonog. Dylasem fod wedi crybwyll, hwyrach, ei fod yn ddirwestwr trwyadl a ffyddlawn o'i febyd. Bu yn perthyn i'r Rechabiaid tra y parhasant; ond o ddiffyg cyfleusdra, nid o ddiffyg zel ac awydd, ni bu yn Demlydd Da. Pleidiai ddirwest yn wresog, ac ymdrechodd lawer iawn i blanu ei hegwyddorion yn meddyliau eraill; yn wir, ceir ei bod fel rhai egwyddorion eraill yn rhedeg yn elfen drwy ei holl lafur. A'r un modd ymhob cysylltiad, fel cymydog, fel gwladwr, ac fel aelod o gymdeithas, yr oedd yn ddyn cyflawn a christion ffyddlawn yn y cwbl.

Y cyfryw ydoedd Ieuan Gwyllt—o gymeriad nodedig o brydferth a phur, a pho fwyaf y myfyriwn arno, helaethaf, a phrydferthaf, a rhagoraf y mae ei rinweddau yn dyfod i'r golwg. Llewyrchai heb frychau i anurddo ei ddysgleirdeb, ac heb "ond" i dynu oddiwrth y rhagorol a'r prydferth ynddo.