Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

EI ATHRYLITH.

WRTH son am athrylith, y mae yn anhawdd iawn penderfynu beth feddylir wrth y gair. Os cymerwn ddarnodiad Carlyle, mai "gallu annherfynol i gymeryd trafferth" ydyw, yna yn ddiddadl yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r dynion mwyaf ei athrylith a fagodd Cymru erioed. Yr oedd ei holl fywyd ef o'r dechreu i'r diwedd yn un llinell ddidor o drafferth a llafur caled i wneyd pob peth yr ymgymerai âg ef yn drwyadl a pherffaith; nid ymfoddlonai ar anfon dim o'i law, hyd y gallai efe, yn hannerog. Prin, fodd bynag, y tybiwn mai dyma yr hyn a feddylir yn gyffredin wrth athrylith. Hwyrach y cawn. ddarnodiad lled agos ganddo ef ei hun mewn beirniadaeth ar un o brif bregethwyr Cymru: "Yr oeddwn yn mawr hoffi ei ddull yn cymeryd un prif feddylddrych, a dim ond un, i'w ddwyn allan. Ar y cyfan, yr wyf yn ystyried ei fod yn un o'r ychydig hyny sydd yn dwyn capital o'u heiddo eu hunain i'r farchnadfa feddyliol—those few by whom the world's stock-in-trade of ideas is really augmented." [1] Dyma, mae yn debyg, yr hyn a feddylir wrth wreiddiolder; nid ailadrodd meddyliau wedi eu cael oddiwrth eraill, ond dwyn i'r golwg feddyliau newyddion, na ddaethant i feddwl neb arall yn flaenorol. Ac eto wrth gymeryd ystyr fel yma, ychydig ellir ddibynu arno fel safon. Mewn rhyw olwg, ychydig iawn sydd yn wreiddiol, yn ddynion o athrylith yn llawn ystyr y gair. Y mae rhyw

  1. Mewn llythyr at y Parch. T. Levi.