Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig yn tori tir newydd, yn darganfod veins newyddion i weithio arnynt, sydd yn dwyn cynnyrch cyfoethog, ond ychydig iawn yw nifer gwirioneddol y cyfryw. Y maent fel un yn darganfod planed newydd yn y gyfundrefn heulawg, neu elfen newydd mewn natur i'w dwyn at wasanaeth dyn, megys troi y steam yn allu i wneyd gwaith, gwneyd i'r gwefr (electricity) gario cenadwri, neu ei ddwyn yn lamp i oleuo. Darganfyddiadau newyddion ydynt sydd yn cyfoethogi'r byd. O'r tu arall, prin y mae yn debyg fod un dyn meddylgar yn darllen ac yn myfyrio drosto ei hun nad yw yn dyfod ar draws ambell i ddrychfeddwl bychan o'r newydd, na feddyliwyd am dano o'r blaen. Y mae y rhai hyn fel y personau sydd yn awr ac yn y man wedi perffeithio y steam engine, neu y telegraph, neu yr electric light—darganfyddiadau bychain nad ydynt yn creu chwyldroad mawr yn y byd, eto ydynt yn eu lle o wasanaeth mawr iddo, ac yn cyfoethogi llawer arno. Yn yr ystyr hon gellir dyweyd fod odid bob dyn meddylgar yn ddyn o athrylith—yn wreiddiol. Bid sicr, nid yw y cwbl ond darganfod gwirioneddau sydd yn bod eisoes. Nid oes neb yn creu,—dim .ond un Creawdwr—ond fod meddyliau dynion yn ymchwilio ac yn dyfod o hyd i ddrychfeddyliau oedd heb gael eu dwyn i'r golwg o'r blaen. Ac felly, nid yw y gwahaniaeth rhwng dynion o athrylith nemawr fwy na gwahaniaeth graddau a thuedd, yn dibynu ar gryfder eu galluoedd meddyliol, a thueddfryd i fyned i gyfeiriad anhygyrch. Mae ambell i ddyn nad yw yn gallu ymfoddloni ar lwybrau cyffredin masnach a thrafnidiaeth; mae rhyw awydd ynddo i fyned o'r ffordd gyffredin i chwilio am lwybrau anhwygyrch. Gwell ganddo fyned i chwilio dirgelion canolbarth Affrica, lle na bu dyn gwareiddiedig o'i flaen. A da fod y cyfryw; felly y mae adnoddau y ddaear yn cael ei hagor i ddynolryw. Felly y mae hefyd yn myd y meddwl: y mae ambell un yn ymwthio dros derfyn-