Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

au myfyrdodau cyffredin, ac yn gallu weithiau agor y drws i diriogaethau newyddion, ac felly yr eangir terfynau ymchwiliadau y meddwl dynol, tra y mae eraill yn ymfoddloni ar ddiwyllio a thynu allan adnoddau y meusydd sydd eisoes wedi eu darganfod. Un o'r dosbarth olaf hwn ydoedd Ieuan Gwyllt. Nid oedd ynddo feddwl "gwyllt," ac anfoddlawn yn ymwthio i gyfeiriadau newydd nes dwyn drychfeddyliau i'r golwg a wnaethant chwyldroad yn y byd cerddorol yn gyffredinol; ond llafuriodd yn galed i chwilio i feusydd cerddorol yr oedd prif gerddorion yr oesoedd wedi bod yn gweithio arnynt, a dygodd i olwg cenedl y Cymry drysorau annhraethol werthfawr yr oedd. hyd yma wedi bod, i raddau helaeth, yn ddyeithr iddynt. Yr oedd ynddo feddwl oedd yn anfoddlawn i'r terfynau cyfyng yr oedd cerddorion Cymreig o'i flaen wedi llafurio ynddynt, ac ymeangodd i chwilio i lafur y cerddorion. mwyaf ymhob gwlad; ond nid aeth ymhellach na hyny. Y mae dychymyg ambell un mor anhawdd ei gadwyno, fel y myn grwydro mor gyflym, nes tori yn rhydd oddiwrth reolaeth barn a rheswm. Y mae meddwl felly, tra yn cael o hyd i berlau weithiau, yn agored iawn i redeg ar ol syniadau cyfeiliornus. Ond yr oedd ei ddychymyg ef, tra yn ddigon cryf i roi bywyd ac yni ynddo, yn gwbl ddarostyngedig i lywodraeth y sober sense, ac felly yn chwilio yn fwy araf, eto yn fanwl a thrwyadl, y maes y llafuriai ynddo. Dyma, ni a feddyliem, oedd nodwedd athrylith Ieuan Gwyllt:—meddwl llym, bywiog (dychymyg, os mynwch), yn cael ei lywodraethu gan farn bwyllog a rheswm cryf, ac yn gysylltiedig â theimlad dwfn ac ymroddiad diflino, yr hyn a'i gwnaeth yn feistr perffaith ar yr holl gangenau y troai ei feddwl atynt.

Nodwedd ei feddwl a ddywedasom oedd hyn, ac yn ei feddwl yr oedd ei fawredd. Meddwl yn ymwneyd â meddyliau oedd ganddo; elai drwy y phenomena, yr allanol,