Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y meddyliau; nid oedd y cwbl iddo ef ond gwisg i'r meddyliau; a'r cwestiwn a godai yn fynych oedd, a oedd y wisg yn gymhwys i ddadguddio'r meddyliau, fel ag i beidio gwneyd cam â hwynt? A meddwl wedi ei lefeinio o'r dechreuad âg egwyddorion pur yr efengyl oedd ei feddwl ef, ac felly yn rhyfela â'r llygredig a'r dichwaeth pan y deuai i gyfarfyddiad âg ef; ac nid yn unig hyny, yr oedd ei feddwl yn ymaflyd mor lwyr, ac yn caru mor fawr y drychfeddyliau pur a da, fel yr ymdrechai ymdrech oes i gael gwisgoedd gweddus iddynt, mewn cerddoriaeth, barddoniaeth, gwleidyddiaeth a moesoldeb. Deddfau, egwyddorion, a meddylddrychau, gyda'r rhai hyn yr oedd ei feddwl ef yn cartrefu. Nid nifer o seiniau hyfryd oedd cerddoriaeth iddo ef, ond iaith meddyliau a theimladau; yr oedd pynciau gwleidyddol nid yn fympwyon plaid, ond yn egwyddorion yr oedd yn rhaid iddynt gael lle; ac yr oedd yr efengyl yn ddadguddiad o egwyddorion mawr y nefoedd. Felly yr oedd yn athronydd yn ngwir ystyr y gair, ac yr oedd ei athroniaeth ef yn sylfaenedig ar egwyddorion tragywyddol. Mewn gair, dyma athroniaeth llafur ei oes; nid cymhwyso y gyfundrefn at amgylchiadau, ond dwyn i'r golwg egwyddorion mawr a sefydlog, a hawlio eu lle priodol iddynt. Nid beth a wnai y tro, ac a fyddai yn debyg o fyned yn boblogaidd, oedd safon ei weithrediadau, ond beth oedd yn iawn, beth oedd yn sylfaenedig ar yr egwyddorion cedyrn a dyfnaf. Yr oedd yn rhaid i'r byd ddyfod i'w le yn ol yr egwyddorion hyny. Ac y mae dyn, wrth ddilyn egwyddorion fel hyn, yn dyfod i wrthdarawiad â llawer o bethau cyferbyniol sydd yn bod, ae yn myned ar draws teimladau lawer sydd yn cymeryd eu rheoli i raddau gan yr hyn fydd gymeradwy; felly y ceir fod ei fywyd yntau hefyd. Nid ydym yn ddigon pell oddiwrtho eto o ran amser, i allu ffurfio syniad cyflawn am ei "faintioli," fel y dywedir. Yn un peth, y mae cymaint