Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o bethau amgylchiadol eto yn aros yn meddyliau pawb o honom mewn cysylltiad âg ef, fel nad ydym yn gallu eu dattod yn ddigon llwyr i sylwi arno ef ei hun. Heblaw hyny, y mae cymaint o'i gyfoedion eto yn fyw, ac yn rhy agos atom i ni allu eu barnu hwy, ac mewn canlyniad ni allwn farnu yn hollol ei alluoedd ef o'i gymharu â hwynt. A chymeryd i mewn bob ystyriaeth, yr ydym yn tybied y gellir dyweyd mai efe oedd y cerddor mwyaf a welodd Cymru o'r dechreuad hyd ei amser ef. Am y rheswm a nodir uchod, nid ydym yn cymeryd y rhai sydd yn fyw yn bresennol i'r cyfrif. Nid ydoedd, yn ddiammeu, yn gymaint cyfansoddwr a Mr. J. Ambrose Lloyd, yr hwn, y mae yn debyg, oedd y goreu yn ei ddydd ac o'i flaen. Tybiem fod mwy nag un o'r hen gerddorion yn meddu athrylith i gyfansoddi llawn cryfach nag Ieuan Gwyllt. Ond y mae yn rhaid i ni edrych yn eangach na hyn. Er nad oedd yn neillduol fel cyfansoddwr cerddorol, yr oedd yn meddu barn, a chwaeth, a chlust gerddorol o'r radd uchaf, ac yn adnabyddus hollol o holl deithi cerddoriaeth, fel erbyn i ni ddyfod â'r cwbl at eu gilydd, yr ydym yn cael ei fod y mwyaf fel cerddor a fagodd Cymru, o gryn lawer. Nid mewn uchder yr oedd yn fwy, ond mewn dyfnder ac eangder. Fel llenor drachefn, gwelir yr un nodwedd; nid rhyw dŵr uchel yn codi hyd y nefoedd, ond un eang, yn dwyn ei drysorau o bob man i'w wasanaethu. Ac yn ei gylchoedd gwahanol fel pregethwr, er na chodid ef i blith gwŷr mawr y pulpud, eto, a chymeryd ei holl ddefnyddioldeb i'r cyfrif, ceir fod seren o'r dosbarth cyntaf wedi machludo yn ei farwolaeth ef, a'i fod yn "dywysog a gŵr mawr yn Israel." Cyfuniad oedd ynddo ef o allu meddyliol cryf, barn addfed, chwaeth bur, a nerth ewyllys anghyffredin o gryf, yr hyn a'i gwnaeth yn ddyn mawr cyflawn, nid un mawr mewn rhyw un peth neillduol.