Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei oreuro âg aur pur, i'w roddi ar ei fedd; a mwy na'r cwbl drachefn, ydyw fod ei gymeriad pur, a'i lafur ymroddedig dros rinwedd a chrefydd, wedi gadael argraff annileadwy ar feddwl a chymeriad cenedl y Cymry.

Ar ymddangosiad y Blodau Cerdd, daeth i'r golwg fod rhyw allu newydd yn y byd cerddorol Cymreig wedi dechreu gweithredu, ond trwy gyfrwng Yr Amserau, a'r ddarlith ar Gerddoriaeth, daeth Cymru oll i wybod fod y gallu hwnw yn gyfryw nas gellid ei ddiystyru, ac y byddai raid iddi deimlo oddiwrtho. Ond cyhoeddiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a ddangosodd fod ganddo neges arbenig at Gymru, ac a barodd iddi deimlo drwy ei holl gyrion ei fod yn llefaru wrthi "fel un âg awdurdod ganddo ; nid awdurdod meistr ar ei waith yn unig, ond awdurdod un wedi ei anfon oddiwrth Frenin teyrnas nefoedd, gyda chenadwri mewn perthynas i foliant ei Gysegr Ef. Sylwasom yn flaenorol fod y wlad wedi addfedu i raddau i'r diwygiad yn y canu cynnulleidfäol, ac fod y llyfr, pan ymddangosodd, yn cyfateb i'r anghen am dano. Ond y mae ffaith bwysig arall i'w dyweyd, sydd yn dangos neillduolrwydd y Llyfr Tônau hwn. Cyhoeddodd eraill lyfrau tônau tua'r un adeg, neu ychydig yn flaenorol. Sylwasom fod Mr. J. A. Lloyd wedi cyhoeddi llyfr tônau yn 1843, a'r Parch. J. Mills y Cerddor Eglwysig ar ol hyny. Mewn blynyddoedd diweddarach, ymddangosodd amryw gasgliadau, un gan Mr. J. D. Jones, Ruthin, y Swn Addoli gan Mr. D. Richards, Cerddor y Cysegr gan y Parch. E. Stephen, ac amryw eraill; ond ni ddaeth un o'r cyfryw i nemawr sylw na bri. Ond pan ymddangosodd y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol, ymledodd fel tân, nid yn unig drwy wersyll y Methodistiaid Calfinaidd, ond hefyd ymhlith yr holl enwadau drwy Gymru, fel am ychydig amser nad oedd ond efe, o'r bron, yn cael unrhyw sylw. Ar ol hyny ymddangosodd Casgliadau gan y gwahanol enwadau, megys