Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Llyfr Tonau ac Emynau, gan Stephen a Jones; Aberth Moliant, gan J. A. Lloyd; Llwybrau Moliant (Bedyddwyr), gan y Parch. L. Jones, Treherbert, D. Lewis a Gwilym Gwent; Llyfr Tônau i'r Wesleyaid, dan olygiaeth J. D. Jones, ac amryw gasgliadau yn yr Eglwys Sefydledig. Wrth gymharu y rhai hyn â'r rhai blaenorol hyd yn nod gan yr un awdwyr, yr ydym yn canfod argraff y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn gan Ieuan Gwyllt yn annileadwy arnynt. Pa un bynag a dybir fod y casgliadau diweddarach yn rhagorach nag un Ieuan Gwyllt ai peidio, fe erys y cyfnewidiad amlwg yn nodwedd y llyfrau tônau yn ffaith hanesyddol anwadadwy, a phrofa fod ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol wedi nodi allan ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y canu cynnulleidfaol gyda phob enwad yn Nghymru. Ceisiodd eraill gyfarfod â'r anghen, ond methasant; daeth Ieuan Gwyllt â'i lyfr allan, a chydnabyddwyd ef yn fuan fel safon gan holl Gymru i gyd. Diflanodd llawer o'r hen dônau a genid yn flaenorol; ond bid sicr, nis gellid dysgwyl i gyfnewidiad mor drwyadl gymeryd lle mor fuan, heb fod rhywrai yn teimlo hiraeth ar ol yr hen gyfnod, ac nid yw Ieuan Gwyllt wedi bod yn ei fedd ddwy flynedd cyn i nifer o'r hen dônau ddyfod allan eto i oleuni dydd, fel pe buasent wedi teimlo nas gallasent anturio tra yr ydoedd efe yn fyw, ond gydag iddo fyned o'r golwg, teimlent awydd i wybod pa dderbyniad a gaent. Ond nid rhaid bod yn brophwyd i wybod y canlyniad: bu farw Ieuan Gwyllt, mae yn wir, ond nid cyn i lewyrch y deunaw mlynedd diweddaf o'i oes ei gwneyd yn ormod o ddydd i ddylluanod fel Lingham, a'r cyffelyb, allu byw yn hir ynddo; ac os rhoddir prawf arnynt mewn ambell i fan, yma ac acw, ni bydd hyny ond moddion mwy effeithiol i'w claddu yn ddyfnach nag erioed. Y mae cynnulleidfaoedd Cymru byth er 1859 wedi ymddyrchafu ac ymburo gyda golwg ar foliant Cysegr Duw.