Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae y rhan bwysig hon o'r gwasanaeth wedi ei godi yn nês i'w le priodol, ac wedi cael llawer mwy o sylw, a'i ddwyn ymlaen yn fwy gweddus o flwyddyn i flwyddyn, fel nad oes berygl mwy iddo syrthio yn ol i'r un cyflwr ag yr oedd ynddo o'r blaen. Pwnc mawr ydyw symud gwlad gyfan, ond wedi ei symud, yn enwedig os bydd yn symud ar egwyddorion gwirioneddol a phur, nid mewn un dydd nac un nos y gellir ei thynu yn ol. Addefwn yn rhwydd nad yw mawl y cysegr eto yn agos yr hyn y dylai fod, a'i fod yn myned ymhell i'r ochr gyferbyniol yn awr, wrth yr hyn a fu, sef marweidd—dra a diffyg ysbryd; ond y mae diwygiad mawr wedi cymeryd lle, a diwygiad pwysig, yr hwn nis gellir ei alw yn ol, ac y mae pob arwyddion y caiff ei ddwyn ymlaen hefyd, gyda bendith y Nefoedd, hyd at fwy o berffeithrwydd.

Yn gyffelyb yr ydoedd gyda golwg ar y Cerddor Cymreig a Cherddor y Tonic Solfa. Daethant yn eu hadeg, ac yn gymhwys i lenwi yr anghen. Agorwyd maes newydd, uwch a gwell, o flaen cerddorion Cymru, a rhoddwyd cymhelliad cryf i ymddyrchafiad; "i fyny" ddaeth yn arwyddair yn y byd cerddorol, ac yr oedd y dylanwad grymus a gafodd y cynhyrfiad hwn uwchlaw desgrifiad. Cododd tô o gyfansoddwyr oeddynt yn ymroddi i waith mwy perffaith, ac uwch eu chwaeth nag a gafwyd yn flaenorol. A siarad yn gyffredinol, daeth yr efrydwyr i feddu syniadau uwch am feusydd ardderchog cerddoriaeth, a daeth y côrau i ymarfer â bwyd cryf a rhagorol; ac yn awr, wrth i ni edrych yn ol, yr ydym yn gweled fod yr ugain mlynedd diweddaf wedi bod yn gyfnod o fynediad ymlaen ymhlith cerddorion Cymru na welwyd ei gyffelyb. Mae ambell i ddyn ar ol ei oes, ac fel plwm wrth ei godreu; mor bell ag y mae ei ddylanwad ef yn cyrhaedd, y mae yn ei chadw yn yr un fan; mae ambell un arall yn gweithio ar gyfer y dyfodol, ac o flaen ei oes, ac yn marw cyn gweled ei