Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lafur wedi dyfod i gael ei werthfawrogi; ond nid un o'r ddau ddosbarth yma oedd Ieuan Gwyllt, ond dyn yn ei oes, ac iddi, yn cario yr oes gydag ef ymlaen; ac er iddo farw yn nghanol ei lafur a'i weithgarwch, yr oedd wedi cael Cymru gerddorol i dir llawer uwch nag y cafodd hi ynddo, ac yn edrych ymlaen yn awyddus tuag i fyny.

Y mae yn debyg nas gellir dyweyd am ei lafur fel llenor a phregethwr iddo osod argraff neillduol o'r eiddo ei hun, fydd yn barhaol, hyny yw, yn barhaol fel yn nodweddiadol o hono ef. Diammeu iddo, fel Golygydd yr Amserau yn enwedig, lywio'r llong gyda medrusrwydd a gallu, ac iddo egluro egwyddorion gwleidyddiaeth a moesoldeb gyda'r fath rym nes bod o gynnorthwy mawr iddynt gael eu lle ymhlith y genedl, ac nad anghofir ei lafur tra y byddo darllenwyr yr Amserau yn fyw. Ond yn y cysylltiad hwn, un yn llafurio ymhlith llïaws ydoedd, ac er iddo lafurio yn llawn mor helaeth a grymus a neb, eto wedi i'r genedlaeth hon fyned heibio, prin y tybiwn y bydd cof am dano fel Golygydd yr Amserau. Erys ei argraff, a'r egwyddorion a bleidiodd, yn ddiddadl, ond nid yn arbenigol mewn cysylltiad âg ef. A'r un modd am ei lafur fel pregethwr, un ymhlith lliaws oedd yma; ac er mai dyma, o bosibl, ei uchelgais penaf, eto y cwbl a erys mewn cysylltiad â'i enw ef yn arbenig fydd, ei fod yn weinidog yr efengyl. Nid hawdd yw rhagweled y dyfodol, a gallwn fethu yn hynyma; ond mor bell ag y gallwn farnu, pan gyfarfyddir âg enw Ieuan Gwyllt ymhen rhai oesoedd eto, darlunir ef felCerddor o enwogrwydd mawr, oedd yn weinidog yr efengyl, ac yn llenor o radd uchel. Mewn cerddoriaeth yr erys ei argraff ddyfnaf, ac yn nodweddiadol o hono ei hun. Mewn cerddoriaeth Gymreig yr oedd yn ddyn cyfnod,' ac erys y cyfnod hwnw, mae'n debyg, mewn cysylltiad â'i enw ef tra pery Cymry, Cymro a Chymraeg—tra y byddo mawl Duw yn dyrchafu yn ein gwlad. Wrth gwrs, nis gellir priodoli