Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gerddorion Cymru yn lled gyffredinol gael yr un peth. Bellach, nid gwiw i bob un fydd yn gallu ysgrifenu ychydig o nodau cerddorol dybied ei hun yn gyfansoddwr; rhaid iddo allu profi yn ei waith ei fod yn dilyn y "deddfau a'r barnedigaethau," ac yn llwybro ymlaen yn drefnus a chywir, onidê fe syrth ei waith i'r llawr. A thra y sonir am adgyfodi hen dônau a chyfansoddiadau, nid yw yn bosibl i'r rhai hyny gael derbyniad yn awr yn y wisg garpiog ac annhrefnus yr ymddangosent gynt y mae yn rhaid eu had—drefnu a'u codi i fyny â'r safon, onidê nid ystyrir hwynt yn werth sylw. Ieuan Gwyllt a ddygodd hyn i mewn i gerddoriaeth Cymru, ac y mae y dylanwad yn dyfnhâu o hyd.

Argraff arall ydyw, mai trosglwyddo drychfeddyliau yw amcan cyfansoddiad cerddorol, ac mai yn ol y drychfeddyliau hyny y mae i'w farnu. Nid digon fod un llais yn lled dda, y mae yn rhaid i'r holl leisiau fod yn cydweithio i argraffu yr un drychfeddwl. Ni thalai ehediadau dibwynt a dienaid iddo ef, a dysgodd gerddorion Cymru i wybod mai iaith ydyw cerddoriaeth, ac mai baldordd ydyw iaith heb feddwl a synwyr iddi. Gall peth felly wneyd y tro i ddifyru babanod, ond y mae mwyafrif cantorion Cymru erbyn hyn wedi dyfod yn ormod o wŷr i gael eu hud—ddenu gan drydar o'r fath hwnw. Rhaid cael synwyr, rhaid cael meddwl, rhaid cael ystyr bellach, ac i Ieuan Gwyllt, yn benaf, y gallwn olrhain yr addysg sydd wedi cynnyrchu y ffrwyth yma.

Trydydd argraff ydyw, mai amcan cerddoriaeth yw gwasanaethu i burdeb a rhinwedd, ac mai cam â hi a darostyngiad arni yw ei dwyn yn gaeth dan unrhyw iau arall. Hwyrach nad yw ein gwlad wedi dyfod i deimlo hyn mor ddwfn a thrwyadl eto ag y byddai yn ddymunol, ond y mae gwahaniaeth dirfawr i'w weled rhwng yr hyn sydd yn awr a'r hyn ydoedd ugain a deng mlynedd ar hugain yn ol. Ymdrech-