Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd Ieuan Gwyllt dros hyn yn ddyfal a diflino a sefydlog ar hyd ei oes. Gwelwyd eraill yn meddu rhyw gymaint o'r pur a'r chwaethus, ond cymysgid ef â chymaint o'r isel a'r di—chwaeth, fel y teimlid nas gellid ymddiried yn eu sefydlogrwydd. Ond glynodd ef yn gywir a difwlch wrth y da a'r rhinweddol; ni wyrodd ar dde nac aswy, ac y mae ôl ei lafur i'w weled yn amlwg, ac fe fydd felly am oesau eto.

Yn olaf, mai y gwasanaeth uchaf ac ardderchocaf y gall cerddoriaeth fod ynddo, yw bod yn gyfrwng addoliad i'r Duw Goruchaf, mewn ffurf syml a choethedig. Y mae y dylanwad a gafodd Ieuan Gwyllt er dyrchafu caniadaeth y cysegr i'r safon uchel hon yn annirnadwy bron. O'r blaen, i raddau gormodol, boddlonid os ceid yr addolwyr i dipyn o "hwyl," fel pe mai amcan penaf canu mawl oedd tyneru yr addolwyr. Syniad newydd, ond syniad a ddaeth gyda grym anwrthwynebol dros Gymru, oedd mai addoli Duw ydyw yr amcan penaf, ac mai cyfrwng i drosglwyddo hwnw yn y dull rhagoraf yw canu mawl. Y mae y syniad hwn wedi gafael yn Nghymru, ac yn ymledu yn barhâus yn ei ddylanwad. Gweithio allan yr egwyddorion hyn i fod yn sefydlog yn ysbryd cerddorion Cymru ydoedd amcan mawr oes Ieuan Gwyllt, a chafodd fyw i'w gweled wedi eu planu ac yn dechreu dwyn ffrwyth. "Y mae y cantorion," meddai (yn 1876), "mewn amryw o leoedd wedi codi bellach i'r ideal o beth ddylai canu cynnulleidfaol fod! Yr oedd ei ddull o lefaru y geiriau uchod yn brawf o'i foddlonrwydd. Y tâl goreu y gall unrhyw ddiwygiwr ei gael yw teimlo a sylweddoli fod ei ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi." [1] Am ei fod yn gorfforiad mor ardderchog o'r egwyddorion hyn, y mae y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol yn sefyll mor

  1. Ysgrif gan Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878, tu dal. 8.