uchel, ac yn debyg o barhâu felly. Yn hyn y gadawodd ymhell ar ol y casgliadau blaenorol, ac o'r diffyg y buont hwy feirw; a pha faint bynag o gyfnewidiad a ddichon ddyfod yn anghenrheidiol yn y dyfodol, fe erys y cyfangorff o hono, yn gorphwys ar sylfeini ansigledig. Fel hyn cafodd Ieuan Gwyllt roddi cychwyniad i gyfnod newydd sylweddol yn hanes cerddoriaeth Cymru, cyfnod o fyned ymlaen, a chyfnod y pery ei ôl yn annileadwy. "Darfu i'r hen Ficer Pritchard o Lanymddyfri, gychwyn cyfnod newydd yn Nghymru, pan y cyhoeddodd ei lyfr Canwyll y Cymry; ac felly hefyd y gwnaeth Williams, Pantycelyn, gyda'i Emynyddiaeth; a chan Charles o'r Bala gyda'i Eiriadur a'i Hyfforddwr; Peter Williams gyda'i Esboniad, a Charles hefyd trwy sefydlu Ysgolion Sabbothol. Gellid gyda phriodoldeb restru Ieuan Gwyllt gyda'r enwogion hyny, fel un a ddechreuodd gyfnod newydd mewn cysylltiad â Cherddoriaeth yn Nghymru. Bydd ei enw yn gysylltiedig â'r cyfnod hwnw tra bydd Cymru mewn bod." [1] Hollol wir. "Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny," ac yr oedd Ieuan Gwyllt o'r un hiliogaeth —o feibion Anac. Y mae ei fywyd a'i lafur bellach, nid yn gwneyd i fyny hanes personol yn unig, ond yn ffurfio rhan o hanes cenedl y Cymry, ac mewn ystyr gerddorol wedi ei gwneyd yr hyn ydyw, ac mor bell ag y mae'r presennol yn sylfaen y dyfodol,—yr hyn a fydd.
Clywsom son amryw weithiau wedi ei farwolaeth, am ethol un i lenwi ei le yn y cylch yr oedd ynddo! Nid myned i esgidiau neb arall a ddarfu Ieuan Gwyllt, ond cerfio lle iddo ei hun, ac yr oedd yn rhy fawr yn y lle hwnw i neb allu ei lenwi ar ei ol. Un Ieuan Gwyllt a gafodd Cymru, ac a gaiff. Pan bu farw Williams, Pantycelyn, ni etholwyd neb i gyfansoddi emynau ar ei ol; a
- ↑ Y Parch. D. Saunders yn ei anerchiad yn Nghaeathraw.