Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phan fu farw Charles o'r Bala, nis gwelwyd yn dda ethol neb i "gymeryd ei esgobaeth ef;" a'r un modd nis gellir gyda Ieuan Gwyllt. Cèrir y gwaith a ddechreuwyd ganddo ymlaen gan wahanol ddoniau, ac mewn gwahanol ddulliau, a chredwn yr ä ymlaen gan gynnyddu fwyfwy. Gadawodd fwlch, nad allasai ei lenwi ond ef ei hun. Er hyny, gorphenodd ei waith. Tra yr ymddengys i ni fod cymaint wedi ei adael ar ei hanner, ac y tueddir ni i ofyn, Pa beth fuasai y rhai hyn oll wedi eu gorphen? Eto, aeth efe hyd at y pen, cyflawnodd ei oruchwyliaeth, ac y mae yr hyn sydd yn weddill i'w wneyd er dyrchafu cenedl y Cymry, i'w wneyd gan arall neu eraill. Rhodd yr Arglwydd i Gymru ydoedd efe yn ddiddadl, yn cael ei rhoddi yn ei hadeg, ac i gyflawni yr amcan mewn golwg. Ac y mae gan Gymru achos mawr i ddiolch a moliannu Duw am dani. Pe gellid tybied y posiblrwydd o gyfuniad y fath dalentau a dylanwad ag oedd ynddo ef, yn gysylltiedig â chymeriad sigledig neu chwaeth lygredig, y fath alanasdra moesol dychrynllyd fuasai hyny. Ond o drugaredd, rhodd nefol ydoedd, mewn cnawd, mae yn wir, ac felly yn ddarostyngedig i wendidau y ddynoliaeth, ond mor bur a rhinweddol, fel y mae ei ddylanwad yn perarogli yn iachus trwy bob congl o Gymru heddyw. Cafodd Cymru ei bendithio ynddo yn ei oes, ac erys enw Ieuan Gwyllt yn fendith ac yn berarogl o'r hyn sydd bur, a rhinweddol, a sanctaidd, tra pery Cymru yn "Wlad y Gân."

Gorphwys bellach, anwyl Ieuan, mewn tangnefedd heddychol yn mynwent dawel a phrydferth Caeathraw. Treuliaist ddiwrnod o lafur caled, caled iawn, a gwnaethost waith mawr, a theilwng ydyw i ti gael gorphwys yn dawel. Ond nid anghofiwn di, gadewaist dy argraff yn rhy ddofn ar ein calonau, ein meddyliau a'n cymeriadau, iddi byth gael ei dileu. Tra y gorphwysa dy ran farwol yna, a'th