Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd yn ngwlad y mawl tragywyddol, aiff dy waith. ymlaen, ymlaen o hyd i wneyd daioni. Y mae dy lafur wedi ei gydwau âg egwyddorion dyfnaf teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist, ac y mae sicrwydd llwyddiant hono yn sicrhâu nad aiff dy "lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mawr, mawr, MAWR ddiolch i ti, am yr hyn oll a wnaethost, a mawr ddiolch i'n Duw ni am dy gyfodi yn ein plith. Ac yn awr, dros enyd fechan, rhaid i ni ddyweyd ffarwel! O na, ni'th anghofiwn di, y mae ein hysbryd of hyd yn ymaflyd ynot, ac yn cymdeithasu â thydi, a'n calon, yn wir, yn hiraethu am danat. Ffarwel ar hyn o bryd, ond "ni gawn gwrdd tu draw i'r afon," ac ymbleseru gyda'r egwyddorion mawrion y llafuriaist drostynt yma. Ond tra y parhao crefydd Cymru, erys yn annileadwy argraff ac enw "Ieuan Gwyllt, Gelltydd Melindur."

Y DIWEDD.





P. M. EVANS AND SON, ARGRAFFWYR, TREFFYNNON.