Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr achos dirwestol. Gallaf feddwl nad oedd ddim dros 13 oed y pryd hwnw."[1] Ond y mae yn eglur fod yr egwyddorion ddaethant i'r golwg mor amlwg mewn amser diweddarach yn dechreu ymysgwyd yn awr, ac hwyrach yn rhyw ragarwyddo beth fyddai yn y dyfodol. Yr oedd y bachgen chwareus ar hyd y coed eisoes yn ysgrifenydd da, yn gryn dipyn o fardd, ac yn gerddor lled drwyadl, oblegid mynai ddeall pob peth yn drwyadl. Dywedir wrthym fod rhan o'r coed oedd yn ymyl ei gartref yn cael ei alw "y gwyllt," ond pa un ai oddiwrth hyny, ynte am ei fod yn hoffi crwydro ar wahan i'r plant eraill, y galwyd ef yn "Ieuan Gwyllt," nid oes sicrwydd. Ond y mae yn ddiddadl ei fod wedi mabwysiadu yr enw yn ieuanc iawn,—gan ei fod yn fardd a cherddor, yr oedd yn rhaid cael ffugenw, wrth gwrs, ac yr oedd ar y cyntaf yn fwy cyflawn—sef Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindur. Paham y mabwysiadodd yr enw Ieuan yn lle Ioan nid ydym yn cael esboniad—yr un gwreiddyn ac ystyr sydd i'r ddau. Ond ceir arwyddion hefyd fod y talentau hyn i gael eu defnyddio i ryw bwrpas. "Bum yn meddwl lawer gwaith, gyda golwg ar ei Lyfr Tonau, ei fod wedi meddwl pan yn ifanc iawn am wneyd y fath lyfr, neu ynte iddo gael tuedd i ymbarotoi ar ei gyfer, a hyny heb yn wybod iddo ei hun; oblegid yr wyf yn cofio, a hyny flynyddau cyn iddo ymadael o Pistyllgwyn, iddo fynu cael llyfr mawr o bapyr gwỳn wedi ei rwymo, ac

  1. Llythyr Mr. Absalom Prys. Mae Mr. Prys, yn ddiddadl, yn camgymeryd gyda'r oedran. Galwyd y dôn ar yr enw "Victoria," yn ol pob tebyg, oddiwrth enw ein grasusaf Frenines, yr hon a esgynodd i'r orsedd Mehefin 21, 1837, pan oedd Ieuan Gwyllt yn 14 oed. Nid oedd Dirwest ychwaith wedi dyfod yn gyffredinol hyd yr un flwyddyn, a chawn hanes y Parch. D. Charles, B. A., ar daith ddirwestol trwy y Deheubarth gyda'r Parch. Henry Rees. Cychwynasant o Gymdeithasfa Aberystwyth, ac yr oeddynt yn Penllwyn Ebrill 7, 1837, pryd yr arwyddodd 13 yr ardystiad. Gwel y Drysorfa am 1837, tu dal. 189. Felly yr oedd Ieuan Gwyllt dros 14 oed.