Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heb ei linellu, fel y gallai wneyd hyny fel y byddai am- gylchiadau yn galw. Yr enw oedd arno oedd Yr Eos, a chasgliad ydoedd o hen Donau Cynnulleidfaol, a'r rhai hyny wedi eu notio yn wahanol i ddull y dyddiau hyny, sef mewn Banig ac Adfanig, fel y gwnaeth yn ei lyfr. Beth oedd yn ei gymhell, nis gwn. Byddai yn dda genyf gael golwg ar yr hen Eos yn awr.

Yr oeddwn yn gofyn iddo, 'Pa le yr wyt yn cael yr hen donau yma, dywed?' 'O, rhai ymhob man: o glywed fy nhad yn eu canu, dyna fel yr wyf yn cael mwyaf o honynt.' Ai am Napoleon y dywedir mai mewn magnel a chleddyf yr ymhyfrydai pan yn blentyn Fel hyny y byddaf yn meddwl am dano yntau,-prif waith ei oes oedd diwygio Cerddoriaeth y cysegr a dwyn allan y Llyfr Tonau, a meddyliaf iddo weled y meddylddrych pan yn blentyn."[1]

Yr oedd, yn ddiammeu, hadau pethau mawrion yn dechreu egino ynddo yn foreu iawn. Yr oedd o dymher neillduol hynaws a charedig, yn hynod felly; ond pan dybiai fod rhywbeth heb fod yn ei le, nis gallai oddef hyny; yr oedd am gael pob peth yn gywir fel y dylai fod. Yr oedd awydd cryf ynddo at ddysgu, a mantais fawr iddo yn hyny oedd fod ganddo gof da. "Yr oedd ganddo gof cryf iawn," meddai Mr. Absalom Prys. Yr oedd hefyd yn benderfynol iawn. 'Amlygodd benderfyniad meddwl, hyny yw, penderfyniad i orchfygu pob peth. Er esiampl, yr wyf yn ei gofio yn notio Tôn i mi, ac .wrth ysgrifenu ei henw yr oedd y pin yn gommedd gweithio fodd yn y byd. 'Ysgrifeni di ddim â hwna,' meddwn wrtho. 'Mi wnaf iddo wneyd, pe b'ai e'n skewer,' meddai yntau, a gwneyd gadd e' hefyd."[1] Ni oddefai i ddim sefyll ar ei ffordd i gyrhaedd ei amcan, os byddai yn credu ei fod yn un teilwng.

Yn ieuanc iawn, tua phymtheg neu un ar bymtheg oed,

  1. 1.0 1.1 Llythyr Mr Absalom Prys