Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feddyliem, os nad yn ieuengach na hyny, cawn ei hanes yn cadw ysgol ddyddiol yn y Goginan; ond yr oedd yn rhy ieuanc i allu cael awdurdod ar y plant, felly byddai ei dad yn ei ganlyn, ac mewn un gongl yn dilyn ei waith o wneyd neu drwsio gograu, tra byddai John yn dysgu y plant. Bu yn cadw ysgol felly hefyd, meddir, yn y Tynant a Thanrhiwfelen, a'i dad yn ei ganlyn. Ymddengys y byddai yn cadw ysgol am dymmor, ac yna yn myned am dymmor i'r ysgol ei hunan â'r arian a ennillasai. Dengys hyn ei ymroddiad llwyr i gasglu gwybodaeth. "Yr wyf yn tybied iddo fod yn cadw ysgol ddyddiol ar hyd y gymydogaeth yma am ddwy neu dair blynedd, ond nid gyda llwyddiant mawr: nid rhyw allu mawr oedd ganddo i ddysgu eraill; yr oedd yn well am ysgrifenu ei feddwl nag am ei ddyweyd y pryd hyny[1] Bu hefyd "yn cadw ysgol ganu ar hyd y cymydogaethau yma."[1] Felly nid oedd am gadw ei wybodaeth iddo ei hunan, ond am ei throi i fod yn ddefnyddiol a manteisiol i eraill. Rhaid fod rhyw awydd angerddol ynddo, pan yr ymgymerai mor ieuanc â'r cyfrifoldeb o ddysgu eraill, ar adeg yr oedd yn rhaid iddo gael cynnorthwy ei dad i gadw trefn; ac y mae coffadwriaeth yr hen ŵr yn deilwng o barch, am iddo gydsynio â'i blentyn a'i gynnorthwyo fel hyn. Y mae yn amlwg ei fod yn meddwl rhywbeth o'i fab, ac yn rhoddi pob cefnogaeth a chynnorthwy iddo yn ei awydd am wybodaeth. Pa feddyliau, tybed, allent fod yn rhedeg drwy ei feddwl tra yn cyweirio ei ograu, ac yn gwylio ymdrechion ieuangaidd ei blentyn yn cyfranu gwybodaeth? Diammeu nad allai gŵr o'i graffder ef ddim gwylio ysgogiadau meddwl ei blentyn heb edrych drwyddynt ymlaen ymhellach na'r presennol.

Yr adeg yr oedd efe gartref, yr oedd gwaith mŵn plwm y Goginan yn "myned," a meddyliodd y gallasai yntau

  1. 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw AP