Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dreio ei law, pa beth a allasai wneyd fel mwnwr, ond buan y gwelodd nas gallai ddygymmod â hyny. Un stem y gweithiodd o dan y ddaear, a dyna ddywedodd ar ol dyfod allan, "nad äi yn dragywydd yn chwaneg o dan y ddaear."* Ond ennillodd un hanner coron yn y gwaith hwnw, a dyna'r cwbl. O ran hyny, beth bynag yr ymaflai ynddo, ni byddai yn foddlawn heb ei wneyd yn iawn ac yn drwyadl, ac er myned i lawr dan y ddaear, [1] gofalodd tra y bu yno am wneyd gwerth hanner coron. Os dysgu yn yr ysgol, mynai feistroli ei wersi; os astudio cerddoriaeth, mynai ddeall ei hegwyddorion; neu "pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, efe â'i gwnai a'i holl egni," ac nid yn unig hyny, ond nis rhoddai ef i fyny heb ei orchfygu yn drwyadl.

"Gyda golwg ar ei waith yn ymgymeryd â chrefydd a dyfod yn gyflawn aelod, nid wyf yn cofio am ei ddyfodiad, na pha oedran oedd pan y daeth. Yr wyf yn sicr fy mod i wedi myned i'r cymundeb o'i flaen, a hyny pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed; ond yr oeddwn i agos i ddwy flynedd yn hŷn nag ef, felly gallasai efe ddyfod yn ieuangach na mi. Nid wyf yn meddwl iddo gymeryd fawr o ran mewn pethau cyhoeddus, megys gweddio ac areithio-oddieithr mewn canu-cyn iddo ymadael â'r gymydogaeth hon."[2]

Dyma'r camrau cyntaf yn y parotoad ar gyfer gwaith bywyd. Nid ydym wedi gallu cael allan pa bryd, na thrwy ba foddion y dysgodd ysgrifenu Cymraeg yn gywir. Gwelsom fod Mr. John Davies wedi bod yn cadw ysgol ramadegol, ond gallai hyny fod cyn ei ddyddiau ef, neu o leiaf cyn ei fod o oedran myned iddi; er hyny dichon iddo fod ei hunan mewn cyffyrddiad mynych â'r gŵr galluog hwnw, neu ei fod wedi derbyn addysg yn anuniongyrchol oddiwrtho drwy y rhai fu yn yr ysgol hono, yn gystal ag addysg

  1. Llythyr Mr. Absalom Prys at yr Ysgrifenydd.
  2. Llythyr Mr. A. Prys at y Parch, R. Roberts.