Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Ysgol Sabbothol a chartref. Fodd bynag, yr ydym yn gweled ei fod eisoes wedi cyrhaedd "gradd dda," mewn dysgeidiaeth, ac fod awydd mawr wedi ei greu ynddo am wybodaeth, a'i fod yn gwneyd defnydd o bob mantais yn ei gyrhaedd i gael gafael arni. Hefyd yr oedd yn fardd o gryn allu, ac yn awdurdod lled uchel yn ei gymydogaeth fel cerddor. Y mae y maes yn newid bellach, eto yn parhâu i fod yn rhagbarotöawl, ond y mae yr hyn sydd eisoes wedi d'od i'r golwg yn dangos rhagarwyddion gobeithiol iawn, ac nid annhebyg y gofynid, "Beth fydd y bachgen hwn?"

"1842, Oct. Went to Messrs. Griffiths and Roberts, Druggists, Aberystwyth."

Yr oedd, yn amlwg, bellach, mai trwy ei ymenydd a'i bin y tueddai John Roberts i feddwl byw, a dymunol oedd cael lle iddo i gychwyn yn y cyfeiriad hwnw. Nid peth hawdd ydyw hyny i fachgen yn ei amgylchiadau ef. Cafodd le gyda y Meistri Griffith a Roberts, Druggists, nid fel egwyddorwas, ond fel math o ysgrifenydd a negeseuydd. Deallwn fod Mr. Griffith yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond nid oedd John Roberts yn llettŷa yn ei dŷ, eithr mewn tŷ arall yn y dref. Yn awr yr ydym yn ei gael yn ŵr ieuanc heb gyrhaedd ei ugain oed, yn troi ei gefn ar gartref, i beidio dychwelyd mwy yn arosol, ac yn wynebu y byd mawr llydan am ei fywioliaeth. Bu gyda'r Meistri Griffith a Roberts am oddeutu blwyddyn a deng mis. Yn y sefyllfa hon yr oedd yn profi ei hunan yn ffyddlawn, ac yn ddyfal yn ei ymdrechion i ddiwyllio ei hun. Tra yr ydoedd yma y bu farw ei dad, Mawrth 20, 1844. Yn 1844 yr oedd yr ysgol a gedwid yn Skinner's Street wedi myned heb athraw, gan fod Mr. Robert Thomas (yn awr y Parch. R. Thomas o Garston) yn ymadael i fyned i Athrofa Trefecca. Gwnaeth John Roberts gais am y lle, a phenodwyd