Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef yn athraw, yr hyn a ddengys ei fod wedi ennill cymaint a hyny o ymddiried y pwyllgor, wrth edrych arno yn ei sefylla flaenorol. Ond teimlai y pwyllgor mai doeth fuasai iddo fyned am fis i'r Ysgol Normalaidd yn Borough Road yn Llundain, fel y gallai wybod rhywbeth am gynllun yr Ysgolion Brytanaidd, a chario yr ysgol ymlaen yn Aberystwyth ar y cynllun hwnw. Felly cawn y nodiad canlynol yn y Bibl Teuluaidd:—

"1844, July. Entered the Normal College, Boro' Road, London."

Yn y cyfamser yr oedd Mr. Thomas Lloyd, yn awr o Liverpool, yn dygwydd bod yn rhydd, ac ymgymerodd efe â gofal yr ysgol hyd nes y deuai John Roberts yn ol o'r Ysgol Normalaidd. A dyma gyfleusdra iddo yntau gael agor ei lygaid ar Lundain a'i rhyfeddodau. Ond y mae ffyrdd Rhagluniaeth yn ddyeithr iawn: mis ydoedd yr amser y bwriedid iddo fod yno ar y cyntaf—ond yn ystod ei arosiad yn Llundain cafodd y frech wèn mewn ffurf enbyd iawn; bu "heb obaith bron cael byw," a gadawodd ei hol yn ddwfn arno am ei oes. Ond nid ar ei gorff allanol yn unig y cafodd argraff. Wrth ystyried y waredigaeth ryfedd hon, a chofio hefyd iddo gael ei waredu megys o safn angeu yn ei fabandod, efe a gredodd fod gan yr Arglwydd ryw waith iddo i'w wneyd drosto ar y ddaear, a bod yn rhaid iddo gyflawni hwnw. Yr oedd argraff fel hyn ar feddwl ystyriol fel yr eiddo ef, yn ddiammeu, yn peri iddo benderfynu ymaflyd yn fwy difrifol mewn crefydd nag erioed o'r blaen. Rhwng yr oediad a barodd yr afiechyd hwn, a dichon hefyd ei fod wedi gweled wedi myned i Lundain fod yn anghenrheidiol cael mwy o amser yno nag a fwriedid ar y cyntaf, ac iddo lwyddo i gael gan y pwyllgor yn Aberystwyth i gydsynio â hyny;—rhwng pob peth, nid yw yn ymddangos