Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo adael yr Ysgol Normalaidd hyd ddechreu y flwyddyn ganlynol, ac felly yr ysgrifenodd yn y Bibl:—

1845, March. Opened British School at Aberystwyth."

Agorid yr ysgol yn awr fel Ysgol Frytanaidd, ond o herwydd rhyw bethau, nid hir yr arosodd yn y sefyllfa hono. Er ei fod wedi cael mantais rhyw ychydig o amser yn y Boro' Road, digon tebyg iddo weled yn fuan nad oedd wedi cael y "ddawn" i addysgu plant; a gwir ydoedd hyny. Nid llawer mwy llwyddiannus ydoedd y tro hwn nag a fu o'r blaen gyda'i dad yn ardal Penllwyn, os cymaint. Yr oedd efe ei hun yn hoff o blant ar hyd ei oes, a chanddo syniad uchel am bwysigrwydd gofalu am danynt, a gwnaeth ei ran yn helaeth gyda golwg arnynt mewn cylchoedd eraill; ac nid oes dadl nad oedd yn ymdrechu yn ffyddlawn i gyfranu iddynt bethau sylweddol; eto yr oedd rhy fychan o'r deniadol ynddo i allu llwyddo i'w haddysgu, nac i gael dylanwad cryf arnynt. Eto y mae yn ddiammeu ei fod wedi cael bendith fawr iddo ei hun trwy yr ymdrechion hyn gyda'r plant. Tua naw mis y bu yn cadw ysgol.

"1845, Dec. Went to Messrs. Hughes and Roberts, Solicitors, Aberystwyth."

Cafodd le fel ysgrifenydd yn swyddfa Meistri Hughes & Roberts. Yr oedd un o'r ddau bartner (Mr. Hughes, os nad ydym yn camgymeryd) yn preswylio yn Mhenllwyn, a dichon mai trwy ryw gydnabyddiaeth felly y cafodd fynediad i mewn i'r swyddfa. Gallem dybied ei fod, bellach, wedi dyfod yn nês i'w elfen yn y swyddfa hon, a phrofodd ei hun yn ffyddlawn ymhob peth, fel yr ydym yn ei gael cyn pen hir amser wedi dyfod yn brif ysgrifenydd yn y swyddfa, ac arno ef yr oedd gofal trefnu y cases erbyn y llysoedd cyfreithiol, a byddai felly yn mynychu y llysoedd