Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwarterol a'r brawdlysoedd yn Aberteifi. Dengys hyn ei fod wedi astudio y gyfraith yn dda, ac wedi cymhwyso ei hun yn y lle yr oedd ynddo, nes ennill ymddiriedaeth llawn ei feistri. Bu hefyd amryw weithiau yn gyfieithydd y brawdlys, os nad, yn wir, efe fyddai bob amser os byddai yn bresennol. Yr hyn a wnai yn awr, fel pan yn blentyn, efe a'i gwnai yn drwyadl: nid ymfoddlonai ar hanner gwaith, ond mynai gael pob peth yn y modd mwyaf perffaith oedd yn bosibl. Gallwn yn hawdd ddychymygu ei weled yn ennill iddo ei hun le fel cyfieithydd y llys. Tybiwn weled achos yno ymha un yr oedd ganddo ef fel prif ysgrifenydd y Meistri Hughes & Roberts ran, a bod y cyfieithydd, fel y byddant yn bur fynych, yn cyfieithu yn lled chwith neu yn gyfeiliornus, a dychymygwn ei glywed ef yn ymyraeth ar unwaith, gan ddywedyd, "That's not right." Nis gallai oddef i ddim fod o'i le, a naturiol iawn fyddai i ni dybied y gwaith yn cael ei daflu mewn canlyniad arno ef, a gwnai ef mor berffaith ag y byddai modd. Ennillodd ffafr ei feistriaid yn gymaint fel nad oeddynt yn foddlon mewn modd yn y byd iddo ymadael pan yn myned i Liverpool yn 1852, a chynnygient iddo ei wneyd yn bartner yn hytrach na’i golli, a thystiolaethent wrth eraill y buasai yn well ganddynt na llawer o arian beidio ei golli.

Yr oedd cyfnod ei arosiad yn Aberystwyth yn bwysig yn ei oes ef, nid yn unig am ei fod yn cynnwys tymmor o'r mwyaf pwysig yn oes dyn (o 20 hyd 30 oed), ond hefyd o herwydd y cyfleusderau a'r manteision y daeth efe i gyffyrddiad â hwynt, a'r defnydd a wnaeth efe o honynt er cymhwyso ei hun at waith mawr ei oes. Yr ydym wedi sylwi eisoes ei fod wedi cyrhaedd safle uchel fel cerddor cyn ymadael o Benllwyn. Yn Aberystwyth yr oedd lle iddo fod yn ei elfen gyda hyn, a chawn ei fod yn fuan wedi ymdaflu yn hollol i'r symudiad yno. Cedwid dosbarthiadau cerddorol yno ac yn y cymydogaethau cylchynol, ymha