Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rai yr oedd Mr. Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion) yn cymeryd rhan flaenllaw, ac yr oedd John Roberts yn un o'i gynnorthwywyr mwyaf aiddgar a ffyddlawn. Dywedir iddo brynu copi full score o'r Messiah (Handel) cyn ei fod prin yn alluog i dalu am dano; ac wedi ei gael, diammeu nad ymfoddloni ar ei ddarllen yn unig a wnaeth efe, ond ei astudio yn drwyadl, yn ei gynganeddion yn gystal a'i symudiadau. Argraffwyd tonau syml a da i fod at wasanaeth y cerddorion i ddiwygio y canu cynnulleidfaol, yn gyffelyb i'r dull y gwnaeth efe wedi hyny yn y Blodau Cerdd. Yr oedd yno fath o Undeb Cerddorol i ddysgu elfenau cerddoriaeth, a deuai Mr. Richard Mills i ymweled â hwy yn achlysurol. Yr adeg hon daeth canu corawl a chynnulleidfaol Aberystwyth yn destun sylw cyffredinol. Byddai y diweddar Mr. J. Ambrose Lloyd yn talu ymweliad mynych âg Aberystwyth, ac yn gwneyd amcan i fod yno ar y Sabboth, fel y gallai fwynhâu y gerddoriaeth ragorol oedd yno, a chaent hwythau hefyd fwynhâu ei gymdeithas a'i gyfarwyddiadau ef, a chai yntau glywed ei anthemau yn cael eu canu yno yn y dull goreu oedd i'w gael yn Nghymru. Pan ydoedd efe gydag Owain Alaw yn beirniadu canu corawl mewn Eisteddfod yr adeg hon, sylwai yr olaf fod y corau yn canu yn dda iawn, a bod diwygiad mawr wedi cymeryd lle yn ddiweddar. "Ond a glywsoch chwi ganu Aberystwyth?" meddai Mr. Lloyd; "yno y mae y canu goreu yn Nghymru y dyddiau hyn." Nid oedd John Roberts yn meddu llais da ar y cyntaf, ond daeth trwy ymarferiad yn fwynaidd a melodaidd. Llais bass ydoedd, ond heb fod yn neillduol o gryf. Yn y cylch hwn yn Aberystwyth yr oedd yn cael mantais ragorol i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth mewn cylch eang, ac yr oedd ei ymroddiad yn peri iddo wneuthur y defnydd goreu o'r manteision hyn, a thrwy hyny yr oedd y chwaeth oedd mor naturiol bur ynddo ef yn cael ei meithrin a'i dysgyblu.