Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd ei ymroddiad gyda'r dosbarthiadau cerddorol hefyd yn rhoddi mantais iddo ddysgyblu ei "glust" gerddorol, gan mai nid canu â'r genau yn unig a wnai efe, ond gwrandaw â'i glust ar yr un pryd, nes bod ganddo "synwyr wedi ymarfer" i ddosbarthu y drwg a'r da, y cydsain a'r anghydsain, y cywir a'r anghywir. Yr oedd cerddoriaeth yn ei ysbryd ef yn ddiammeu o'r dechreuad, ac yr oedd ei dalent at hyny wedi dyfod i'r golwg yn ieuanc iawn; ond yr oedd y cylch yr oedd ynddo yn bresennol o'r fath fwyaf manteisiol i eangu ei wybodaeth gerddorol a phuro ei chwaeth. Yr oedd yn ymberffeithio yn yr ymarferiad yn gystal ag yn yr athrawiaeth. Ond nid iddo ei hun yn unig yr oedd yn llafurio; awyddai am arwain ei gydwladwyr at y ffynnonellau pur a dyrchafedig yr oedd efe ei hun yn cael cymaint o fwynhâd ynddynt. Mewn canlyniad anturiodd i'r wasg yn 1852, trwy gyhoeddi y Blodau Cerdd yn rhifynau misol ceiniog a dimai, hyd nes y symudodd i Liverpool. Cawn fantais i sylwi yn fwy manwl ar y cyhoeddiad hwn eto. Dyma, mae yn ymddangos, ei ymgais cyntaf, ond nis gallwn wybod pa mor bell y llwyddwyd i fod yn ddigolled ynddo. "Yr oedd yn bartners yn yr anturiaeth hon Ieuan Gwyllt, Mr. J. Jones (Ifon), Mr. E. Edwards, a Mr. W. Julian, y diweddaf yn drysorydd a dosbarthwr."[1]

Ond nid oedd cerddoriaeth ond un rhan o faes ei lafur. Darllenai lawer, ac ymdrechai yn ddyfal i gyfoethogi ei feddwl â gwybodaeth gyffredinol. "Yr oedd yn llafurwr mawr mewn llenyddiaeth—yn llafurwr dibaid."[2] Un tro, pan wedi dyfod i Aberaeron i'r llys, galwodd yn nhŷ ei gyfaill Mr. Absalom Prys, yr hwn oedd yn byw yno y pryd hwnw, a gofynodd iddo ddyfod gydag ef i roddi tro, gan ei fod yn teimlo braidd yn swrth a chysglyd; a dywedai "iddo gael llyfr newydd y noswaith cyn hyny, ac iddo fod ar ei draed

  1. Tystiolaeth y cyfeillion hyn.
  2. Tystiolaeth Mr. Julian, Aberystwyth.