hyd bedwar o'r gloch y boreu yn ei ddarllen. 'Beth ydych gwell?' meddwn wrtho; nid oes bosibl eich bod yn cofio fawr o hono ar ol darllen cymaint.' 'Ydwyf,' meddai; "gallwn ddyweyd i chwi yn awr bob mater, a phob peth neillduol o'i fewn;' ac yr oedd yn llyfr o faintioli pur fawr."[1] Nid peth anghyffredin iddo ef oedd colli ei gysgu i ddarllen yr adeg hon nac wedi hyny; yn hytrach yr oedd yn fwy o arferiad ganddo; a'r peth a ddarllenai, nid ei ddarllen yn unig y byddai, ond ei astudio yn drwyadl, nes ei ddeall a'i gwbl feddiannu, ac yr oedd ei gof rhagorol yn peri ei fod yn gallu cadw yn ddiogel yr hyn oll a feddiannai felly. Hwyrach y gallai fod yn gwestiwn a oedd ganddo ef, neu a oes gan rywun, gof rhagorach na'r cyffredindichon fod rhyw gymaint o wahaniaeth naturiol yn hyny; ond y mae llawn cymaint, os nad mwy, yn dibynu ar allu y dyn i gymeryd trafferth i gwbl feistroli yr hyn fydd ganddo mewn llaw. Ac yr oedd hyn yn neillduol ynddo ef: mynai feistroli yn drwyadl yr hyn yr ymgymerai âg ef; a'r peth y mae dyn wedi ei gael "â swm mawr o drafferth felly, y mae yn bur debyg o'i sicrhâu yn eiddo iddo byth wed'yn. Fodd bynag, dyma fel yr ydoedd efe; nid arbedai ei hun nes gorchfygu. Ac y mae un felly hefyd, yn y cyffredin, mewn amser yn dyhysbyddu llawer o lyfrau; yn araf, mae yn wir, ond wrthi yn barhâus, fel y camel yn y ddammeg. Gwariai lawer i brynu llyfrau, a diammeu hefyd iddo yn Aberystwyth gael cyfleusderau i helaethu cylch ei wybodaeth yn eangach nag y gallai ei boced fforddio i brynu.
Yr oedd dynion grymus yn perthyn i eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth yr adeg hono. Heblaw y Parch. Edward Jones, yr hwn hwyrach nad oedd ynddo ei hun mor neillduol, yr oedd Mr. John Evans yr athraw, Mr. John James, Mr. Matthews, Mr. Richard Jones a Mr.
- ↑ Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.