David Phillip. Cedwid yno ddosbarth Biblaidd bob boreu Sabboth ar ol yr oedfa, a byddai dadleuon, fel y gellid dysgwyl, yn fynych yn codi ynddo, pa rai a gynnyrchent ymroddiad mawr i ddarllen ac ysbryd zelog. Yr oedd rhai o honynt yn darllen llyfrau oedd yn trin yn helaeth ar ryddid ac iawnderau dyn fel y cyfryw, ac yn ystod y dadleuon hyny deuai i'r golwg fod gan John Roberts syniadau eang iawn ar y materion, yr hyn nid oedd yn gymeradwyaeth uchel iddo yn meddyliau rhai dynion oeddynt yn tybied fod pwysigrwydd mawr mewn ymostwng yn barod a dirwgnach i'r awdurdodau sydd, ac ammheuid ef nad ydoedd yn hollol iach yn y ffydd, gyda golwg yn enwedig ar ddysgyblaeth eglwysig. "Un tro yn y cyfarfod hwn, daeth y pwnc o ddysgyblaeth eglwysig o dan sylw ac yn destun dadl. Yn y ddadl daeth yn amlwg fod gan John Roberts syniadau lled eang, a braidd yn ddyeithr, ar y mater, yr hyn a greodd fesur helaeth o ddrwgdybiaeth ynghylch iachusrwydd ei olygiadau; ac i un wedi amlygu tuedd am fyned i'r weinidogaeth, a'i achos fel ymgeisydd wedi bod ger bron a'i gymeradwyo gan yr eglwys,—yr oedd hyn iddo ef yn bwysig iawn. Un o'r cyfarfodydd eglwysig cyntaf ar ol i J. R. amlygu y syniadau y cyfeiriwyd atynt, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, yno dros y Cyfarfod Misol i'w holi gyda golwg ar iddo fyned yn bregethwr. Daeth yntau drwy yr arholiad yn hollol foddhaol ar y cwestiynau a ofynid, a meddyliwyd fod pob peth yn esmwyth iddo gael pasio. Ond cyn terfynu cododd un o'r blaenoriaid, sef Mr. John Evans, i ddyweyd y dymunai efe, cyn gofyn arwydd gan yr eglwys, glywed J. R. yn dyweyd ei olygiadau ar ddysgyblaeth eglwysig, ac amlygodd yr hyn yr oedd wedi clywed J. R. yn dadleu o'i blaid un o'r Sabbothau blaenorol yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato. Dywedodd yntau ei olygiadau megys yn y cyfarfod o'r blaen; a chan eu bod yn gyfryw a ystyrid ac a ystyrir
Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/44
Gwedd