Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eto yn gwbl wrthwynebol i reolau y Cyffes Ffydd, aeth y cais i'w ollwng i'r weinidogaeth y tro hwn yn fethiant hollol." [1]

Gweddus yw crybwyll hefyd, iddo y pryd hwn gael cynnygion teg i fyned at enwadau eraill a phregethu; ond na, yr oedd efe yn ormod o'r "true blue" i gael ei ddenu felly. Gweled Ieuan Gwyllt wedi troi yn Eglwyswr neu Annibynwr! Nid diffyg parch i'r enwadau hyny sydd yn peri i ni ddyweyd fod hyny yn anmhosibl; yr oedd yn anghydweddol â chyfansoddiad ei feddwl ef; nid troi y byddai efe, ond myned ymlaen yn benderfynol i orchfygu pob anhawsderau. Nid y plisgyn o arferiad a magwraeth oedd yn ei gysylltu ef â Methodistiaeth, ond egwyddorion a "gredid yn ddiammeu" ganddo; a gorweddai y rhai hyny yn rhy ddyfnion i'r holl gamdriniaeth a gafodd oddiar law Methodistiaid beri iddo roddi i fyny ei Fethodistiaeth.

Ymddengys ei fod, yn ystod ei arosiad yn Aberystwyth, yn graddol ddyfod i sylw fel cerddor a llenor. Ar ymddangosiad cyntaf Gramadeg Cerddoriaeth, gan y Parch. J. Mills, bu mewn dadl â'r awdwr ynghylch rhai pethau oedd yn wallus ynddo. [2] Yr ydym hyd yn hyn wedi methu dyfod o hyd i'r ddadl hono, na pha bethau oedd testun y ddadl; ond yn y trydydd rhifyn o'r Blodau Cerdd, wrth sylwi ar drefn y lleisiau—sef yr Isalaw (Bass) yn isaf, y Cyfalaw (Tenor) yn ail, yr Adalaw (Alto) yn drydydd, a'r Uchalaw (Treble) yn uchaf—dywed, "Mae yn ofidus genyf na allwn gydweled â Mr. Glan Alarch am athroniaeth y mater hwn, ond iawn i bob dyn ei farn." Yr hen arferiad

  1. Cawsom gryn anhawsder i gael gwybod yr hanes hwn yn fanwl, ac anfonasom y Cofiant i gael ei gywiro gan gyfeillion Aberystwyth drwy law y Parch. J. Williams, ac y mae y dernyn uchod wedi ei ysgrifenu ganddynt hwy.
  2. Wedi ysgrifenu yr uchod, cawsom o hyd i'r argraffiad cyntaf o'r Gramadeg Cerddoriaeth, 1838. Os ar ei ymddangosiad y bu'r ddadl, yr oedd hyny cyn iddo ądael Penllwyn.